Mae ein dadansoddiad manwl o dystiolaeth bresennol yn amlygu darlun o anghydraddoldeb hil sy’n peri gofid. Mae ein hystadegau allweddol yn amlygu pum maes amlwg lle fo’r angen am welliant yn hanfodol: cyflogaeth, addysg, troseddau, safonau byw a gofal iechyd.
Cyflogaeth
Cyflogaeth
- Roedd cyfraddau diweithdra yn arwyddocaol yn uwch i leiafrifoedd ethnig ar 12.9% o’i gymharu â 6.3 % i bobl Gwyn.
- Mae gweithwyr Du â gradd yn ennill 23.1% yn llai ar gyfartaledd na gweithwyr Gwyn.
- Ym Mhrydain, roedd canran arwyddocaol is o leiafrifoedd ethnig (8.8%) yn gweithio fel rheolwyr, cyfarwyddwyr ac uwch swyddogion, o’i gymharu â phobl Gwyn (10.7%). Roedd hyn yn arbennig o wir i bobl Affricanaidd/Caribïaidd/Du (5.7%) a’r rheini o ethnigrwydd Cymysg (7.2%).
- Mae pobl Ddu sy’n gadael yr ysgol gyda chyraeddiadau Safon A yn nodweddiadol yn cael eu talu 14.3% yn llai na’u cyfoedion Gwyn.
Addysg
Addysg
- Dim ond 6% o ddisgyblion Du a aeth i brifysgol Grŵp Russell, o’i gymharu â 12% o ddisgyblion o dras Gymysg ac Asiaidd ac 11% o ddisgyblion Gwyn.
- Mae gan blant Du Caribïaidd a Chymysg Gwyn/Du Caribïaidd gyfraddau gwahardd parhaol tua theirgwaith yn fwy nag i’r boblogaeth disgybl gyfan.
Troseddau
Troseddau
- Roedd cyfraddau erlyn a dedfrydu i bobl ddu yn deirgwaith yn uwch nag i bobl Gwyn –18 y mil o’r boblogaeth o’i gymharu â chwech y mil o’r boblogaeth i bobl Gwyn. O ran dedfrydu roedd yn 13 y mil o’r boblogaeth i bobl Ddu a phump y mil o’r boblogaeth i bobl Gwyn.
- Yng Nghymru a Lloegr mae plant ac oedolion lleiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o gael eu lladd yn droseddol. Roedd y gyfradd dynladdiad i bobl Ddu yn 30.5 y filiwn o’r boblogaeth, 14.1 i bobl Asiaidd ac 8.9 i bobl Gwyn.
- Mae menywod Gwyn yn fwy tebygol o ddioddef cam-drin domestig na menywod lleiafrifoedd ethnig. Adroddodd 7.4 % eu bod yn ddioddefwyr camdriniaeth o’i gymharu â 4.4 % o fenywod lleiafrifoedd ethnig.
- Mae troseddau casineb ar sail hil ar rwydweithiau rheilffyrdd Prydain wedi codi o 37 %.
- Yn Lloegr, roedd 37.4% o bobl Ddu a 44.8% o bobl Asiaidd yn teimlo’n anniogel yn eu cartrefi neu o gwmpas eu hardal leol, o’i gymharu â 29.2% o bobl Gwyn.
Safonau byw
Safonau byw
- Mae oedolion Pacistanaidd/Bangladeshaidd a Du yn fwy tebygol o fyw mewn llety tila na phobl Gwyn. Mae 30.9 % o bobl Pacistanaidd/Bangladeshaidd yn byw mewn llety gorlawn, tra bo’r ffigwr yn 26.8% i bobl Ddu ac 8.3% i bobl Gwyn.
- Os ydych yn perthyn i’r lleiafrifoedd ethnig, rydych yn dal yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi. Dengys ein tystiolaeth fod 35.7% o leiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi o’i gymharu â 17.2% o bobl Gwyn.
- Yn yr Alban, mae aelwydydd lleiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o ddioddef gorboblogi. Roedd hyn yn 11.8% i aelwydydd lleiafrifoedd ethnig o’i gymharu â 2.9% i aelwydydd Gwyn.
Iechyd a gofal
Iechyd a gofal
- Roedd gan fenywod Du Affricanaidd gyfradd marwolaeth bedair gwaith yn uwch na menywod Gwyn yn y DU.
- Mae nifer anghymesur arwyddocaol o leiafrifoedd ethnig yn cael eu cadw’n gaeth o dan ddeddfwriaeth iechyd meddwl mewn ysbytai yng Nghymru a Lloegr - roedd menywod Du Affricanaidd yn saith gwaith yn fwy tebygol o gael eu cadw’n gaeth na menywod Gwyn Prydeinig.
- Canfuwyd fod Sipsiwn, Teithwyr a Roma yn dioddef iechyd meddwl salach na gweddill y boblogaeth ym Mhrydain. Roedden nhw hefyd yn fwy tebygol o ddioddef gorbryder ac iselder ysbryd.
Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Oct 2020