Ymchwiliad i anghydraddoldeb hiliol mewn gweithleoedd iechyd a gofal cymdeithasol

Ein camau gweithredu

Cynhaliom ymchwiliad i asesu'r driniaeth a phrofiadau gweithwyr o leiafrifoedd ethnig ar gyflog is ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, yn arbennig yn ystod y pandemig COVID-19.

Mae 'rolau ar gyflog is' yn swyddi sy'n talu £10 yr awr neu lai (£10.85 yn Llundain).

Beth mae hwn yn ei gwmpasu

Buom yn siarad â phobl sy'n gweithio yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol oedolion ledled Cymru, Lloegr a'r Alban.

Casglwyd tystiolaeth hefyd gan sefydliadau cydraddoldeb hiliol, elusennau, arolygiaethau, undebau llafur, cyrff cyflogwyr a sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol (gan gynnwys sefydliadau darparu gofal). Buom yn ymgysylltu’n uniongyrchol ag amrywiaeth o adrannau’r llywodraeth a chyrff hyd braich.

Comisiynom adolygiad cyflym o dystiolaeth bresennol ar brofiadau gwaith a chanlyniadau gweithwyr o leiafrifoedd ethnig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Fe wnaethom hefyd gomisiynu ymchwil ansoddol i ddeall profiadau gweithwyr.

Mae adroddiadau ymchwil sy'n gysylltiedig â'r ymchwiliad hwn ar gael ar gais drwy gysylltu â correspondence@equalityhumanrights.com

Roedd ein hymchwiliad yn cwmpasu Cymru, Lloegr a'r Alban, a chymerodd i ystyriaeth gyd-destun gwahanol y systemau iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gweithredu ym mhob gwlad.

Ein nod oedd archwilio:

  • nifer yr oriau a weithiwyd
  • polisïau, gweithdrefnau a diwylliant y gweithle
  • y tasgau a neilltuwyd
  • gallu gweithwyr i gael mynediad at iawn
  • cyfleoedd hyfforddi a datblygu

Darllenwch y cylch gorchwyl llawn

Pam ein bod yn cymryd rhan

Cyn y pandemig, fe wnaethom leisio ein pryderon hirsefydlog am anghydraddoldebau hiliol ar draws sawl agwedd ar gymdeithas. Mae'r pandemig wedi tynnu sylw at yr anghydraddoldebau hyn. Roeddem am ddefnyddio ein pwerau i nodi achosion hyn, gan ganolbwyntio ar y ffactorau yn y gweithle sy’n wynebu gweithwyr rheng flaen, ac i leihau unrhyw anghydraddoldebau a welsom yn ystod ein hymchwiliad.

Mae ymchwiliadau yn un o'n pwerau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb. Gallant ein helpu i ddarganfod mwy am gydraddoldeb neu hawliau dynol mewn sector penodol neu am fater penodol.

Y canlyniad

Canfuom:

  • ddata anghyflawn ar weithwyr o leiafrifoedd ethnig ar gyflogau is, yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol oedolion
  • triniaethau a phrofiadau gwahanol yn y gwaith
  • comisiynu ac allanoli yn arwain at gyflog gwael a gwaith ansicr
  • ymwybyddiaeth isel o hawliau cyflogaeth
  • ofn codi pryderon a diffyg mecanweithiau i wneud hynny

Rydym wedi cyhoeddi adroddiad am ein canfyddiadau, gan gynnwys ein hargymhellion ar gyfer newid.

Rydym hefyd wedi cynhyrchu papurau briffio ychwanegol ar gyfer llunwyr polisi sy’n manylu ymhellach ar yr hyn yr ydym am ei weld yn benodol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Mae ein hargymhellion ar gyfer newid wedi'u hanelu at lywodraethau, awdurdodau lleol, darparwyr y GIG, a rheolyddion iechyd a gofal cymdeithasol.

Dylent gymryd camau brys i gydnabod a mynd i’r afael â’r materion a godwyd yn ein hadroddiad a gwella profiadau’r holl weithwyr ar gyflogau is ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys y rheini o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig.

Bydd yr argymhellion a wnaethom hefyd yn rhoi mewnwelediad i sectorau eraill.

Help a chyngor

Gall unigolion sydd angen gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar faterion gwahaniaethu a hawliau dynol gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb.

Diweddarwyd ddiwethaf: 09 Jun 2022