Deddf Cydraddoldeb 2010 a’r Pwyllgor Anabledd
Yma cewch dystiolaeth a gyflwynodd y Comisiwn i’r Pwyllgor Anabledd.
20 Gorffennaf 2016
Amlinellodd ein hymateb i adroddiad y Pwyllgor Dethol y camau bydd y Comisiwn yn eu cymryd dros y flwyddyn nesaf a’r alwad ar y llywodraeth i ddod â darpariaethau llawn yn y Ddeddf Cydraddoldeb i rym ar unwaith. Wrth gyhoeddi ein hymateb, galwodd Cadeirydd y Comisiwn, David Isaac, am ffocws cenedlaethol newydd ar hawliau anabledd, fel na thrinnir pobl anabl mwyach fel ‘dinasyddion eilradd’.
6 Ionawr 2016
Cyflwynodd y Comisiwn y dystiolaeth hon, sy’n canolbwyntio ar ein dull i ddarparu cynhorthwy cyfreithiol o dan Adran 28 Deddf Cydraddoldeb 2006.
21 Rhagfyr 2015
Yn bellach i’n cyflwyniadau tystiolaeth flaenorol, darparodd y Comisiwn wybodaeth atodol ynglŷn â bylchau cyflog ac asesiadau gorfodol ar achosion.
Rhagfyr 2015
Croesawodd y Comisiwn y cyfle i ymateb i faterion a godwyd gyda’r pwyllgor drwy gydol ei sesiwn tystiolaeth. Mae’r ymateb hwn yn canolbwyntio ar y Pwyllgor Anabledd, y llinell gymorth ac asesiadau effaith cronnus.
Medi 2015
Darparodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol dystiolaeth ysgrifenedig ar y cwestiynau a amlinellwyd yng ngalwad y Pwyllgor am dystiolaeth ysgrifenedig. Yn y cyflwyniad, mae’r Comisiwn yn olrhain y gwaith a ymgymerodd wrth gefnogi amcanion Deddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys cyfreitha strategol a llunio canllaw. Mae’r Comisiwn yn amlygu sut y gellid gwella gweithrediad y Ddeddf, yn benodol drwy roi ei darpariaethau ar waith yn llawn ac adfer darpariaethau a gafodd eu dirymu. Mae’r Comisiwn yn galw am ddwyn pob agwedd ar gydraddoldeb a hawliau dynol o dan awdurdod adran sengl o’r llywodraeth; pwerau newydd a fyddai’n galluogi’r Comisiwn i orfodi’r Ddeddf yn fwy effeithiol, ac adolygiad cynhwysfawr o fynediad i gyfiawnder mewn achosion gwahaniaethu.
Awst 2015
Yn ystod sesiwn tystiolaeth lafar y Comisiwn gyda’r pwyllgor, ymgymeron i ddarparu tystiolaeth bellach yn ysgrifenedig ar nifer o faterion:
1. Rhai cymariaethau o gyllidebau ac effeithiolrwydd y Comisiwn Hawliau Anabledd (cyn 2007) â chyllideb a gwaith presennol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
2. Bylchau yn y gyfraith – gwelliannau arfaethedig y Comisiwn i Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys rhai sylwadau ar ddarpariaethau sydd wedi’u deddfu ond heb eu grymuso eto.
3. Sylwadau ar drafodaethau ar Godau Ymarfer Statudol arfaethedig y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
4. Rhai cymariaethau rhwng gofynion ac effeithiau Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
5. Rhai sylwadau ar effeithiau dileu’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth i bobl yn y Grŵp Gweithrediadau yn Ymwneud â Gwaith.
6. Crynodeb o ddeilliannau mwyaf diweddar ein Hymchwiliad i Aflonyddu ar sail Anabledd
7. Enghreifftiau achosion cyfreithiol y mae’r Comisiwn wedi ymyrryd ynddynt neu wedi’u cefnogi sydd wedi effeithio’n arwyddocaol ar bobl anabl.
Gorffennaf 2015
Rhoddodd y Farwnes O'Neill o Bengarve, Cadeirydd, Yr Arglwydd Holmes o Richmond, Comisiynydd Anabledd, a Rebecca Hilsenrath, Prif Swyddog Cyfreithiol (bellach yn Brif Weithredwr), Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol dystiolaeth i’r pwyllgor fel rhan o’u hymchwiliad i ystyried ac adrodd ar effaith Deddf Cydraddoldeb 2010 ar bobl ag anableddau.
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Jul 2016