Mae gan y Comisiwn Gyfarwyddiaeth Gyfreithiol o gyfreithwyr a gweithwyr achos gyda phrofiad eang o gyfraith hawliau dynol a gwahaniaethu sy’n rhedeg achosion prawf ar faterion cydraddoldeb a hawliau dynol. Mae’r gwaith hwn yn cwmpasu gamwt cyfan o les cymdeithasol a materion cyfreithiol cysylltiedig megis mynediad at nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau, tai, trafnidiaeth, addysg, mewnfudo ac ati, ac nid cyfraith cyflogaeth yn unig.
Mae gan y Comisiwn bŵer i gymryd achosion adolygu barnwrol ar sail achosion torri’r Ddeddf Hawliau Dynol, neu mewn perthynas ag unrhyw fater mewn cysylltiad â swyddogaeth y Comisiwn - hynny yw ei fandadau cydraddoldeb, hawliau dynol a pherthynas dda. Nid oes angen i’r Comisiwn gyflawni’r gofyniad ‘dioddefwr’ er mwyn gwneud felly. Am fanylion pellach gweler ein tudalen ar bwerau cyfreithiol hawliau dynol.
Mae’r Comisiwn hefyd yn ymyrryd mewn achosion hawliau dynol a chydraddoldeb y cymera eraill, yn enwedig ar lefel apeliadol (gan gynnwys yn Llys Hawliau Dynol Ewrop). Mae’r Comisiwn yn ymyrryd mewn achosion o ddiddordeb i’r cyhoedd lle y creda y gall ychwanegu gwerth i’r llys a helpu i wireddu cynnydd ym maes datblygu neu ddehongli hawliau dynol neu gyfraith cydraddoldeb.
Gwybodaeth bellach
Ar gyfer gwybodaeth ar ein hachosion presennol a’r achosion a ddyfarnwyd arnynt gweler ein tudalen ymyriadau cyfreithiol.
- Gweler hefyd y newyddion diweddaraf ar rai o'n achosion.
O ran materion hawliau dynol yn yr Alban, mae’r Comisiwn yn rhannu ei gylch gwaith â Chomisiwn Hawliau Dynol yr Alban a rhaid trafod materion a goda gyda nhw cyn gweithredu.
Cysylltau cyfreithiol
Os ydych am ofyn i ni am gynhorthwy gyda phroblem, mae’r ffordd a wnewch hyn yn dibynnu ar bwy ydych.
Dylai cynrychiolwyr cyfreithiol ffonio’r Llinell Gymorth Gyfreithiol (Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm).
Cymru: 029 2044 7790
Lloegr: 0161 829 8190
Gellir cysylltu â’r Llinell Gymorth Gyfreithiol hefyd yn legalrequest@equalityhumanrights.com
Sylwer y bydd sicrhau cynhorthwy yn arferol yn cymryd i fyny at 4 wythnos, felly gofynnwn i chi gysylltu â ni cyn gynted ag y gallwch.
Byddai o help i ni pe gallech fwrw golwg ar ein Cynllun Busnes a’n polisi ymgyfreitha a gorfodi cyn i chi ein cysylltu ynglŷn ag achos.
Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb
Dylai unigolion, sydd yn dymuno i’w problem gael ei hasesu ar gyfer ei gwerth strategol, ffonio’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS). Mae’r EASS yn cael galwadau gan unigolion ac yn gweithio ar y cyd ag asiantaethau cynghori a sefydliadau eraill sydd yn gwneud atgyfeiriadau ato.
Mae’n darparu gwybodaeth, cynhorthwy a chymorth (ond nid cyngor neu gynrychioliad cyfreithiol) i unigolion ledled Prydain ynglŷn â gwahaniaethu a materion hawliau dynol a’r gyfraith berthnasol.
Os bydd EASS yn ystyried y ffeithiau o fod o fudd strategol i’r Comisiwn, byddant yn atgyfeirio’r achos i ni ar gyfer cwmpasu pellach. Byddwn wedyn yn penderfynu p’un a ai i gynnig cymorth. Gallai’r EASS, yn amgenach eich atgyfeirio at asiantaeth arall a fydd, efallai, mewn lle gwell i’ch helpu.
Mae’n bwysig cysylltu ag EASS cyn gynted ag y byddwch yn teimlo bod efallai broblem gennych, gan y bydd yn cymryd amser i benderfynu os oes gennych broblem o fudd strategol. Gan fod cyfyngiadau amser llym gan lysoedd a thribiwnlysoedd, gallai unrhyw oedi fod â chanlyniadau difrifol.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i benderfyniadau a wnawn:
- i beidio â darparu cymorth cyfreithiol
- i beidio ag ymyrryd mewn achosion cyfreithiol, ac
- i beidio â dilyn i fyny (neu i roi'r gorau i ddilyn i fyny) gwybodaeth am ddiffyg cydymffurfiad honedig trydydd parti â chyfraith cydraddoldeb neu hawliau dynol.
Gallwch ofyn am adolygiad o benderfyniad sy'n dod o fewn un o'r categorïau uchod dim ond os ydych chi:
- yn gynrychiolydd cyfreithiol neu gynghorydd proffesiynol a ofynnodd inni gymryd rhan, gweithredu neu darparu cymorth, neu
- yn gynrychiolydd o’r sefydliad a gododd y mater gyda ni neu a ofynnodd inni gymryd rhan neu weithredu (‘y cyfeiriwr’).
Os ydych chi'n unigolyn sy'n ceisio cyngor am eich hawliau neu gymorth gyda'ch anghydfod, mae angen i chi gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Os byddai’n well gennych siarad â thîm cyfreithiol y Comisiwn ynglŷn ag achos neu broblem y byddai, yn eich tyb chi, o ddiddordeb i ni, ac rydych chi’n gyfreithiwr neu mae gennych ddiddordeb proffesiynol arall yn y mater, ffoniwch ein Llinell gymorth atgyfeiriadau cyfreithwyr. Y manylion cyswllt yw:
- Atgyfeiriadau cyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr: 0161 829 8407 (Dydd Mawrth i ddydd Iau, 10am i 1pm)
- Atgyfeiriadau cyfreithwyr yn yr Alban: 0141 228 5951 (Dydd Llun i ddydd Gwener)
Bydd ein staff profiadol yn gallu trafod â chi p’un ai a yw eich achos yn ymwneud â mater a allai berthyn i flaenoriaethau strategol y Comisiwn. Byddant hefyd yn ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych ynglŷn â sut i wneud cais am gymorth cyfreithiol neu ymyrraeth gan y Comisiwn os oes gennych achos sydd o ddiddordeb inni.
(Nodwch fodd bynnag na fyddwn yn gallu darparu cyngor cyfreithiol ar y llinell gymorth atgyfeiriadau hwn. At hynny, ni allwn drafod atgyfeiriadau posibl gan neb heblaw cynghorwyr neu gynrychiolwyr profesiynol megis cyfreithwyr neu fargyfreithwyr).
Dylai hawlwyr ac unigolion eraill a hoffai cyngor a gwybodaeth ar faterion gwahaniaethu a hawliau dynol gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb.
Gall y Comisiwn hefyd ddarparu siaradwyr gwadd i gynadleddau a digwyddiadau eraill o’n timau cyfreithiol i egluro am y mathau o achosion yr ydym yn edrych amdanynt ac i egluro ein prosesau gwneud penderfyniadau.
Diweddarwyd ddiwethaf: 01 Oct 2021