A visually impaired person walking A visually impaired person walking

Erthygl 9: Rhyddid meddwl, cred a chrefydd

Mae Erthygl 9 yn diogelu’ch hawl i ryddid meddwl, cred a chrefydd

Mae’n cynnwys yr hawl i newid eich crefydd neu gredau ar unrhyw adeg.

Hefyd mae gennych yr hawl i roi eich meddyliau a chredau ar waith. Gallai hyn gynnwys eich hawl i wisgo dillad crefyddol, yr hawl i siarad am eich credau neu gymryd rhan mewn addoli crefyddol. Ni all awdurdodau cyhoeddus eich atal rhag ymarfer eich crefydd, heb reswm da iawn – gweler yr adran ar gyfyngiadau isod.  

Yn bwysig, mae’r hawl hon yn diogelu ystod eang o gredau anghrefyddol gan gynnwys atheistiaeth, agnostigiaeth, feganiaeth a heddychaeth. Er mwyn i gred gael ei diogelu o dan yr erthygl hon, rhaid idddi fod yn ddifrifol, ymwneud ag agweddau pwysig ar fywyd neu ymddygiad dynol, cael ei dal yn ddiffuant, a bod yn deilwng o barch mewn cymdeithas ddemocrataidd.

A oes unrhyw gyfyngiadau ar yr hawl hon?

Ni all awdurdodau cyhoeddus ymyrryd â’ch hawl i ddal neu newid eich credau, ond mae rhai sefyllfaoedd lle gall awdurdodau cyhoeddus ymyrryd â’ch hawl i  arddangos neu ddangos eich meddyliau, cred a chrefydd. Caniateir hyn dim ond lle gall yr awdurdod ddangos bod eu cam gweithredu’n gyfreithlon, angenrheidiol a chymesur er mwyn diogelu:

  • diogelwch y cyhoedd
  • trefn gyhoeddus
  • iechyd neu foesau, a
  • hawliau a rhyddidau pobl eraill.

Mae cam gweithredu’n ‘gymesur’ pan yw’n briodol a heb fod yn fwy na’r hyn sydd ei angen i drafod y broblem dan sylw.

Defnyddio’r hawl hon - enghraifft

Mae Llys Hawliau Dynol Ewrop wedi dyfarnu na ellir gorfodi person i arddangos barnau neu ymddygiad sy’n gysylltiedig â chrefydd arbennig. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, y dylai awdurdodau cyhoeddus gymryd gofal wrth ddefnyddio gweithdrefnau sy’n cynnwys tyngu llw. Byddai gofyniad i dyngu ar destun crefyddol, megis y Beibl, yn torri ar gyfraith hawliau dynol. Dylai ffurf arall o gadarnhau fod ar gael nad yw’n gysylltiedig â chrefydd.

(Cymerwyd yr enghraifft o ‘Hawliau dynol, bywydau dynol: canllaw i’r Ddeddf Hawliau Dynol ar gyfer awdurdodau cyhoeddus.)

Yr hyn mae’r gyfraith yn ei ddweud

Erthygl 9: Rhyddid meddwl, cydwybod a chrefydd

1. Mae gan bawb yr hawl i ryddid meddwl, cydwybod a chrefydd; mae’r hawl hon yn cynnwys rhyddid i newid ei grefydd neu gred a rhyddid, naill ai ar ei hunan neu ar y cyd â phobl eraill ac yn gyhoeddus neu’n breifat, i arddangos ei grefydd neu gred, o ran addoli, ymarfer ddysgu a defodau.

2. Bydd rhyddid i ardddangos crefydd neu gredau person yn amodol dim ond ar y fath gyfyngiadau a ragnodir gan y gyfraith a sydd eu hangen mewn cymdeithas ddemocrataidd er budd diogelwch cyhoeddus, ar gyfer diogelu trefn gyhoeddus, iechyd neu foesau, neu i ddiogelu hawliau a rhyddidau pobl eraill.

Achos enghreifftiol - R (Williamson ac eraill) v Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Chyflogaeth ac eraill [2005]

Fe wnaeth carfan o rieni ac athrawon geisio’n aflwyddiannus i ddefnyddio Erthygl 9 i wrthdroi’r gwaharddiad ar gosb gorfforol o blant mewn ysgolion. Roeddynt yn credu mai rhan o’r ddyletswydd addysgu yn y cyd-destun Cristnogol oedd i athrawon dderbyn rôl rhieni a rhoi cosb gorfforol i blant sy’n camymddwyn. Fe wnaeth Tŷ’r Arglwyddi wrthod yr achos gan fod hawliau’r rhieni o dan Erthygl 9 wedi’u cyfyngu gan yr angen i ddiogelu plant rhag yr effeithiau niweidiol y gallai cosb gorfforol eu hachosi – gosb sy’n golygu peri trais corfforol yn fwriadol. Penderfynodd Tŷ’r Arglwyddi fod hyglwyfder plant yn golygu bod angen y ddeddfwriaeth a bod y gwaharddiad statudol ar gosb gorfforol mewn ysgolion yn dilyn nod ddilys a’i bod yn gymesur.

(Cymerwyd crynodeb yr achos o ‘Hawliau dynol, bywydau dynol: canllaw i’r Ddeddf Hawliau Dynol ar gyfer awdurdodau cyhoeddus’. Lawrlwythwch y cyhoeddiad i weld rhagor o enghreifftiau ac astudiaethau achos cyfreithiol sy’n dangos sut mae hawliau dynol yn gweithio mewn ymarfer.)

Diweddarwyd ddiwethaf: 04 May 2016