A visually impaired person walking A visually impaired person walking

Erthygl 2 y Protocol Cyntaf: Hawl i addysg

Protocol 1, Ertygl 2 yndiogelu’ch hawl i addysg effeithiol.

Hefyd mae gan rieni hawl i sicrhau y perchir eu credau crefyddol ac athronyddol yn ystod addysg eu plant.

A oes unrhyw gyfyngiadau ar yr hawl hon?

Nid yw’r hawl i addysg yn rhoi hawl ichi ddysgu beth bynnag sydd arnoch ei eisiau, ble bynnag mae arnoch ei eisiau. Mae’r llysoedd wedi dyfarnu bod yr hawl i addysg yn perthyn i’r system addysg sydd eisoes yn bodoli. Nid yw’n mynnu bod y llywodraeth yn darparu na chymorthdalu unrhyw fath penodol o addysg.

Caniateir i’r llywodraeth reoleiddio’r ffordd y cyflenwir addysg. Er enghraifft, gall basio deddfau’n gwneud addysg yn orfodol neu’n gorfodi gofynion iechyd a diogelwch ar ysgolion. Caniateir i ysgolion ddefnyddio polisïau mynediad cyhyd ag eu bod yn wrthrychol a rhesymol.

Er bod gan rieni hawl i sicrhau y perchir eu credau crefyddol neu athronyddol yn ystod addysg eu plant, nid yw hon yn hawl absoliwt. Cyhyd â bod y credau hyn yn cael eu hystyried yn briodol, gall awdurdod addysg symud i ffwrdd oddi wrthynt cyhyd â bod rhesymau da ac y’i gwneur yn wrthrychol, yn feirniadol a chyhyd ag ei fod yn darparu ar gyfer amrywiaeth o gredau a barnau byd-eang.

Yr hyn mae’r gyfraith yn ei ddweud

Protocol 1, Erthygl 2: Hawl i addysg

Ni wadir hawl i addysg i unrhyw berson. Wrth ymarfer unrhyw swyddogaethau mae’n eu cymryd mewn cysylltiad ag addysg ac addysgu, bydd y Wladwriaeth yn parchu hawl rhieni i sicrhau bod y fath addysg ac addysgu’n cydymffurfio â’u credau crefyddol ac athronyddol eu hunain.

Achos enghreifftiol - R (Cyngor Bwrdeistref Llundain Hounslow) v Panel Apeliadau Mynediadau Ysgol Cyngor Bwrdeistref Llundain Hounslow [2002]

Roedd polisi mynediadau ysgol gynradd yng Ngorllewin Llundain yn rhoi blaenoriaeth i blant oedd yn byw yn nalgylch penodedig yr ysgol. Roedd hyn yn golygu nad oedd rhai plant oedd yn byw y tu allan i’r ardal hon, ond oedd â brodyr neu chwiorydd oedd yn mynychu’r ysgol, yn cael mynediad oherwydd y pwysau ar feintiau dosbarthiadau. Fe wnaeth carfan o rieni herio’r penderfyniad hwn. Fe wnaeth y llys ddyfarnu nad oedd polisi mynediad yr ysgol yn torri ar yr hawl i addysg. Pwysleisiodd, lle mae mynediadau’n mynd heibio i’r nifer o leoedd yn yr ysgol, fod rhaid i awdurdodau mynediadau ddefnyddio proses deg i wneud penderfyniadau ymarferol, gwrthrychol. Ymhlith pethau eraill, mae hyn yn golygu bod rhaid ystyried pob achos ar ei deilyngdod ei hunan cyn gwneud penderfyniad terfynol.

(Darperir y grynodeb achos gan Sefydliad Hawliau Dynol Prydain)

Gweler y cyhoeddiad ‘Hawliau dynol, bywydau dynol: canllaw i’r Ddeddf Hawliau Dynol ar gyfer awdurdodau cyhoeddus’ i weld rhagor o enghreifftiau ac astudiaethau achos cyfreithiol sy’n dangos sut mae hawliau dynol yn gweithio mewn ymarfer.

Diweddarwyd ddiwethaf: 04 May 2016