A visually impaired person walking A visually impaired person walking

Erthygl 1 y Protocol Cyntaf: Diogelu eiddo

Mae Protocol 1, Erthygl 1 yn diogelu’ch hawl i fwynhau eiddo’n heddychlon.

Gall eiddo gynnwys pethau megis tir, tai, gwrthrychau rydych yn berchen arnynt, cyfranddaliadau, trwyddedau, lesoedd, patentau, arian, pensiynau a mathau penodol o fudd-daliadau lles. Ni all awdurdod cyhoeddus dynnu’ch eiddo i ffwrdd, na gosod cyfyngiadau ar ei ddefnydd, heb reswm da iawn.

Mae’r hawl hon yn perthyn i gwmnïau yn ogystal ag unigolion.

A oes unrhyw gyfyngiadau ar yr hawl hon?

Mae rhai sefyllfaoedd lle gall awdurdodau cyhoeddus dynnu i ffwrdd pethau rydych yn berchen arnynt neu gyfyngu ar y ffordd rydych yn eu defnyddio. Mae hyn yn bosibl dim ond lle gall yr awdurdod ddangos bod eu gweithred yn gyfreithlon ac angenrheidiol er budd y cyhoedd. Os tynnir eich eiddo i ffwrdd, dylech fod gennych hawl i gael eich digolledu.

Rhaid i’r llywodraeth daro cydbwysedd teg rhwng eich buddiannau chi fel perchennog eiddo a buddion cyffredinol y gymdeithas gyfan.

Nid yw’r hawl hon yn effeithio ar allu awdurdodau cyhoeddus i orfodi trethi neu ddirwyon.

Defnyddio’r hawl hon - enghraifft

Os yw awdurdod cyhoeddus yn cynllunio adeiladu ffordd dros dir rhywun, rhaid bod ganddo ddeddfau yn eu lle i gefnogi hyn. Hefyd rhaid bod proses yn ei lle i wirio bod cydbwysedd teg wedi’i daro rhwng budd y cyhoedd wrth adeiladu’r ffordd a hawl yr unigolyn i’w tir.

(Cymerwyd yr enghraifft o ‘Hawliau dynol, bywydau dynol: canllaw i’r Ddeddf Hawliau Dynol ar gyfer awdurdodau cyhoeddus.)

Yr hyn mae’r gyfraith yn ei ddweud

Protocol 1, Erthygl 1: Diogelu eiddo

Mae gan bob person naturiol neu gyfreithlon hawl i fwynhau ei feddiannau’n heddychlon. Ni chaiff neb ei amddifadu o’i feddiannau ac eithrio er budd y cyhoedd ac yn amodol ar yr amodau y darperir amdanynt o dan y gyfraith ac yn ôl egwyddorion cyffredinol cyfraith ryngwladol. Fodd bynnag, ni fydd y darpariaethau blaenorol, mewn unrhyw ffordd, yn amharu ar hawl y Wladwriaeth i orfodi’r fath ddeddfau mae’n ystyried bod eu hangen i reoli’r defnydd o eiddo yn unol â’r budd cyffredinol neu i sicrhau y telir trethi neu gyfraniadau neu gosbau eraill.

Achos enghreifftiol - Howard v Y Deyrnas Unedig [1987]

Roedd awdurdod cyhoeddus eisiau defnyddio gorchymyn prynu gorfodol i gaffael eiddo i’w ddatblygu. Dyfarnodd Llys Hawliau Dynol Ewrop mai’r cwestiwn oedd a oedd yr awdurdod wedi taro cydbwysedd teg rhwng hawliau’r berchnogion eiddo unigol a hawliau’r gymuned. Un o’r prif ffactorau mewn unrhyw gydbwysedd o’r fath fydd argaeledd iawndal sy’n adlewyrchu gwerth yr eiddo a gaffaelir gan yr awdurdod.

(Darperir y grynodeb achos gan Sefydliad Hawliau Dynol Prydain)

Gweler y cyhoeddiad ‘Hawliau dynol, bywydau dynol: canllaw i’r Ddeddf Hawliau Dynol ar gyfer awdurdodau cyhoeddus’ i weld rhagor o enghreifftiau ac astudiaethau achos cyfreithiol sy’n dangos sut mae hawliau dynol yn gweithio mewn ymarfer.

Diweddarwyd ddiwethaf: 04 May 2016