- Hafan
- Y Comisiwn yng Nghymru
- Amdano'r Comisiwn yng Nghymru


Amdano'r Comisiwn yng Nghymru
Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru yn amddiffyn cydraddoldeb a hawliau dynol i bawb. Mae'n gweithio i ddileu gwahaniaethu, lleihau anghydraddoldeb, diogelu hawliau dynol ac i ddatblygu perthynas dda, gan sicrhau bod gan bawb gyfle teg i gymryd rhan mewn cymdeithas.
Diben y Comisiwn yng Nghymru yw cyflenwi rhaglen o waith yng Nghymru a sicrhau bod polisiau a wneir gan y Comisiwn ym Mhrydain yn adlewyrchu anghenion Cymru.
Mae gan y Comisiwn dri phwyllgor statudol sydd yn gyfrifol am sicrhau bod gwaith cyffredinol y Comisiwn yn adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau Cymru a'r Alban a buddiannau pobl anabl. Maen nhw'n gyfrifol hefyd am ddatblygu eu rhaglenni gwaith penodol eu hunain a chymryd rhan flaenllaw wrth weithio gyda'n rhanddeiliaid. Caiff bob un o'r pwyllgorau ei gadeirio gan un o'n comisiynwyr a'i gefnogi gan brif swyddog.
I gyflawni'i bwrpas bydd Cyfarwyddiaeth Cymru'n:
- Gweithio gyda Phwyllgor Cymru i sicrhau bod anghenion Cymru'n cael eu hystyried yng nghynllun busnes Prydain Fawr ac yn gweithredu rhaglen o waith sy'n briodol i Gymru
- Cydlynu holl agweddau o waith y Comisiwn yng Nghymru i wneud yr effaith mwyaf, isafu risg ac ychwanegu gwerth i'r strategaeth Prydain gyfan
- Adeiladu sylfaen dystiolaeth gref sy'n galluogi'r Comisiwn i siarad yn awdurdodol ar faterion polisi a chydag eglurder ar yr hyn sydd angen ei newid
- Canfod y synergedd rhwng agendau'r Comisiwn a'r Llywodraeth a datblygu strategaethau dylanwadu i gyflenwi amcanion y Comisiwn yng Nghymru
- Mynegi amcanion y Comisiwn gyda pherswad i gysylltu rhanddeiliaid a chynhyrchu camau gweithredu
- Defnyddio pwerau cyfreithiol y Comisiwn i wella mynediad at gyfiawnder a hyrwyddo cymdeithas gyfiawn a theg
Safonau'r Gymraeg
Ar 25 Gorffennaf 2016, cafodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (y Comisiwn) ei gyflwyno gan Gomisiynydd y Gymraeg â:
Hysbysiad Cydymffurfio – ADRAN 44 MESUR Y GYMRAEG (CYMRU) 2011
Mae’r hysbysiad hwn
- yn nodi neu’n cyfeirio at, un neu ragor o safonau a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1), a
- sy'n ei gwneud yn ofynnol i berson (y Comisiwn yn yr achos hwn) gydymffurfio â'r safon neu â'r safonau a nodir neu y cyfeirir ati neu atynt.
Mae hysbysiad cydymffurfio yn aros mewn grym oni chaiff, a hyd oni chaiff, ei ddirymu. Daw cynllun iaith Gymraeg y Comisiwn i ben ar 25 Ionawr 2017, y diwrnod y mae'n ofynnol i ni gydymffurfio â’r safonau am y tro cyntaf.
Ceir Safonau’r Gymraeg a osodwyd ar y Comisiwn fan hyn.
Ceir ‘Rhoi Safonau’r Gymraeg ar waith’, dogfen sy’n amlinellu sut mae’r Comisiwn yn bwriadu cydymffurfio â’r safonau, fan hyn. (PDF) (Word)
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu ymholiadau ar ol ei ddarllen, cysylltwch gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru.
Ein manylion cyswllt
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Companies House (1st Floor)
Crown Way
Cardiff
CF14 3U
Map: Map Google swyddfa Manceinion
Rydym yn croesawu gohebiaeth Cymraeg. Byddwn yn ymateb iddi yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw oedi yn sgil gohebu yn Gymraeg.
Ffôn - 02920 447710 (Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg)
Ffacs - 02920 447712
E-bost: wales@equalityhumanrights.com
Ymholiadau'r wasg
Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau ac am siarad â'n swyddfa'r cyfryngau, ffoniwch 02920 447710
Diweddarwyd ddiwethaf: 17 Nov 2022