
Os ydych yn gyflogwr, ac rydych yn gwneud penderfyniad, neu’n gweithredu yn dilyn penderfyniad, i ddiswyddo gweithiwr neu ddileu swydd gweithiwr, neu o ran beth rydych yn ei wneud ar ôl i rywun adael eich cyflogaeth, (er enghraifft, os gofynnir i chi am eirda), bydd cyfraith cydraddoldeb yn gymwys i chi. Dywed y canllaw hwn wrthych sut y gallwch osgoi’r holl fathau gwahanol o wahaniaethu anghyfreithlon.