
Mae’r canllaw hwn yn ymwneud â darpariaethau ysgol Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae osgoi gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb yn ategu’r agenda gwella cyrhaeddiad a chamu ymlaen o ran cynnydd ar gyfer pob disgybl. Mae addysg a sgiliau da yn allweddol ar gyfer manteisio ar gyfleoedd a chynyddu’r cyfle dros fywyd llwyddiannus. Yn ogystal, yn Lloegr, mae cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ffactorau penodol y mae rhaid cymryd cyfrif ohonynt mewn arolygon Ofsted. Golyga hyn os na gaiff mesurau cydraddoldeb eu rhoi ar waith yn effeithiol, gallai hynny gyfyngu ar y radd arolwg cyffredinol.