Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’n hargymhellion i lywodraethau’r DU a Chymru ynglŷn â hanes y DU o dan y Confensiwn yn Erbyn Artaith (CAT).
Mae’n dilyn y rhestr materion y cododd y Cenhedloedd Unedig ynglŷn â hanes y DU o dan CAT.
Mae ein hargymhellion yn ymwneud â materion megis:
- diogelu pobl yn ceisio am loches, dioddefwyr masnachu pobl ac ecsploetio, cleifion, pobl yn y ddalfa a phobl sy’n cael eu ffrwyno
- atal trais yn erbyn menywod a merched, tramgwyddau rhywiol ar blant a throsedd casineb
- ymateb i honiadau o gysylltiad Prydeinig ynglŷn â cham-drin pobl o dramor sy’n cael eu cadw
- sicrhau y gall pobl sydd yn agored i niwed gael cymorth cyfreithiol
- datblygu’n strategaeth gwrthderfysgaeth
- gwneud CAT yn rhan o gyfraith y DU
Mae’r adroddiad yn codi pryderon bod rhaid i’n llywodraethau wneud mwy i wella’u hanes ar atal triniaeth annynol a diraddiol.
Lawr lwytho’r adroddiad a’r argymhellion: crynodeb gweithredol