- Hafan
- Sut rydym yn mesur cydraddoldeb a hawliau dynol?


Sut rydym yn mesur cydraddoldeb a hawliau dynol?
Ein fframwaith mesur yw’r teclyn y byddwn yn ei ddefnyddio i fonitro cynnydd ar gydraddoldeb a hawliau dynol ar draws ystod o feysydd bywyd ym Mhrydain.
Rydym yn galw’r meysydd hyn yn ‘barthau’ ac mae chwech ohonyn nhw yn y fframwaith:
- addysg
- gwaith
- safonau byw
- iechyd
- cyfiawnder a diogelwch personol
- cyfranogiad
Mae’r fframwaith yn cwmpasu Cymru, Lloegr a’r Alban.
Beth yw e?
Mae’r fframwaith yn edrych ar ystod o ddangosyddion i fesur cynnydd ymhob parth. Pan fo’n bosibl, caiff y mesurau hyn eu dadelfennu yn ôl nodweddion gwarchodedig, er enghraifft anabledd neu ethnigrwydd, yn ogystal â grŵp cymdeithasol economaidd (dosbarth cymdeithasol).
Mae’r fframwaith mesur hefyd yn edrych ar anfantais ‘croestoriadol’ (ymadrodd a ddefnyddir i ddisgrifio’r berthynas rhwng hunaniaethau cymdeithasol gorymylol a nodweddion gwarchodedig) a grwpiau mewn perygl, megis pobl ddigartref a gofalwyr.
Sut fyddwn yn ei ddefnyddio?
Byddwn yn defnyddio’r fframwaith mesur i roi strwythur a chysondeb i’r ffordd yr ydym yn casglu a dadansoddi gwybodaeth a thystiolaeth. Byddwn yn defnyddio’r data byddwn yn ei gasglu yn sail i’n hadroddiadau i’r Senedd, er enghraifft yr adroddiad A yw Prydain yn Decach?. Byddwn yn cymharu’r canlyniadau gyda data o flynyddoedd blaenorol, fel y gallwn monitro newid dros amser.
Pwy arall gall ei ddefnyddio?
Gallai’r fframwaith fod yn ddefnyddiol i asiantaethau llywodraeth cenedlaethol a lleol, llywodraethau tramor, cyrff cydraddoldeb a hawliau dynol rhyngwladol, ac ymchwilwyr.
Fframweithiau blaenorol
Cafodd y fframwaith mesur cyfredol ei gyhoeddi yn 2017. Mae’n adeiladu ar ein pedwar fframwaith blaenorol ac yn eu dwyn ynghyd, fframweithiau nad ydym bellach yn eu defnyddio:
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Feb 2019