
Mae’r adroddiad hwn yn bwrw golwg ar ai a yw clybiau’r Uwch Gynghrair wedi cyflawni’u cyfrifoldebau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl.
Edrychom ar ba gynnydd a wnaed gan nifer o glybiau yn sgil ein gwaith gyda nhw, a’r canllaw a’r cyngor y darparom iddyn nhw.
Pan nad yw’r cynnydd wedi bod yn ddigonol, amlinellom y camau yr oedden nhw wedi cytuno eu cymryd er mwyn gwella.
Helpodd y prosiect hwn ni i ddeall yr heriau y mae’r clybiau hyn yn eu hwynebu ac i ddysgu o’u profiadau.
Mae’r adroddiad yn gwneud argymhellion i glybiau pêl droed a darparwyr gwasanaeth eraill, yr Uwch Gynghrair a chyrff llywodraethu chwaraeon eraill. Mae’n rhannu ymarfer da sydd yn berthnasol i glybiau pêl droed eraill, chwaraeon eraill a mannau cyfarfod eraill.