Y sefyllfa ar hyn o bryd: pa mor hygyrch yw eich clwb?

Adroddiad
 

Y gwledydd y mae'n berthnasol iddynt?

    • Lloegr flag icon

      Lloegr

    • |
    • Cymru flag icon

      Cymru

First published: 20 Apr 2017

Publication cover: The state of play - how accessible is your club?

Ysgrifennodd y Comisiwn at bob un o 20 clwb pêl droed Uwch Gynghrair Lloegr i ofyn am hygyrchedd eu maes a’r gwasanaethau y maen nhw’n ei ddarparu i gefnogwyr anabl.

Ein hasesiad yw’r adroddiad hwn yn seiliedig ar yr wybodaeth a roddon nhw i ni.

Roeddem am ganfod pa gamau roedden nhw wedi’u cymryd i gyflawni’u rhwymedigaethau cyfreithiol i wneud addasiadau rhesymol i bobl anabl.

Gofynnom am:

  • hygyrchedd eu maes, gan gynnwys seddau, toiledau a chyfleusterau newid,
  • gwasanaethau megis prynu tocynnau a stiwardio
  • trafnidiaeth i ac o’r stadiwm, gan gynnwys mannau parcio i geir
  • cynlluniau ar gyfer gwelliannau dros y ddwy flynedd nesaf

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i glybiau pêl droed wneud addasiadau rhesymol i bobl anabl ers 1999, a daeth rhan derfynol y ddyletswydd hon i rym yn 2004.

I helpu clybiau i ddod yn fwy hygyrch, cafodd yr Accessible Stadia Guide (ASG) ei gyhoeddi yn 2003 a’i ddiweddaru ym mis Mawrth 2015. Mae pob clwb yr Uwch Gynghrair wedi ymrwymo i fodloni’r safonau a amlinellir yn yr ASG erbyn mis Awst 2017.

Lawr lwytho’r adroddiad