
Edrycha’r ymchwil hwn ar sut mae awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn gosod eu nodau cydraddoldeb a’u rhoi ar waith.
Mae angen iddynt wneud hyn fel rhan o’u dyletswyddau penodol o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED). Dyletswydd yw’r PSED sy’n golygu fod rhaid i awdurdodau cyhoeddus roi sylw i’r angen i daclo gwahaniaethu a hybu cydraddoldeb.
Edrycha’r ymchwil hefyd ar enghreifftiau arfer orau ledled y byd ar lunio, monitro a gorfodi dyletswyddau cydraddoldeb.
Cynhaliwyd yr ymchwil gan NatCen Social Research.
Byddwn yn defnyddio’r ymchwil a’i ganfyddiadau i lunio polisi ar y dyletswyddau penodol, i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn effeithiol wrth daclo gwahaniaethu ac anghydraddoldeb.