
Mae’r ymchwil hwn yn bwrw golwg ar incymau pensiwn tebygol pobl anabl yn y dyfodol, yn ogystal â phobl lleiafrifoedd ethnig.
Mae’n gofyn:
- beth yw nodweddion pensiwn pobl anabl a phobl lleiafrifoedd ethnig, er enghraifft, patrymau gweithio a darpariaeth pensiwn cyfredol?
- pa incymau pensiwn yn y dyfodol y gallai pobl yn y grwpiau hyn ei gael?
- faint fydd diwygiadau pensiwn yn eu helpu?
- pa effaith allai penderfyniadau polisi yn y dyfodol ei gael?
Mae’r astudiaeth yn dilyn ymchwil gan y ‘Pensions Policy Institute (PPI)’ yn 2003, a ganfu bod menywod, pobl anabl a phobl lleiafrifoedd ethnig heb gael pensiwn digonol (mae ganddynt lefelau is na’r cyfartaledd o gynilion ac incwm).