
Mae’r adroddiad hwn yn bwrw golwg ar effaith ‘hawl i wneud cais am, a dyletswydd i ystyried, gweithio hyblyg’ y DU ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau a mynediad i weithio hyblyg i ddynion a menywod.
Mae’r ymchwil yn cymharu ymagwedd y DU â gwledydd eraill, gan gynnwys:
Ffrainc
Yr Almaen
Yr Iseldiroedd
Awstralia
Seland Newydd
Norwy
Cafodd yr 'hawl i wneud cais am, a dyletswydd i ystyried, gweithio hyblyg' ei chyflwyno yn y DU ym mis Ebrill 2003. Ei nod oedd darparu’r hawl i staff â chyfrifoldeb rhiant dros blant dan 6 (neu 18, os yn anabl) i ofyn am newid yr oriau roedden nhw’n eu gweithio, pryd a lle, a bod y cais hwnnw yn cael sylw dyledus gan eu cyflogwr. Cafodd yr hawl ei ehangu yn ddiweddarach i gynnwys y sawl, sy’n gofalu am oedolyn dibynnol, a rhieni plant dan 16.