
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno profiad gwirioneddol pobl a gafodd eu heffeithio gan y tân yn Nhŵr Grenfell.
Dengys yr anawsterau a wynebont wrth geisio cyngor a gwasanaethau cymorth megis tai, mewnfudo, cymorth lles a gofal iechyd.
Mae’r adroddiad yn bwrw golwg ar brofiadau trigolion a rhanddeiliaid o fewn cyd-destun yr hawliau dynol a ganlyn:
- yr hawl i dai digonol
- yr hawl i fywyd
- rhyddid rhag artaith a thriniaeth greulon, annynol neu ddiraddiol
- cydraddoldeb ac anwahaniaethu
- hawliau plant
Gobeithio bydd yr ymchwil hwn yn dylanwadu ar ymchwil Tŵr Grenfell drwy ategu’r dadleuon mae’r goroeswyr yn eu lleisio a sicrhau y bydd ystyriaeth yn cael ei roi i faterion cydraddoldeb a hawliau dynol.
Cafodd gwaith maes yr ymchwil ei gynnal gan Race on the Agenda (ROTA).