
Ymchwiliom i wahaniaethu cyflog honiedig yn y gorffennol yn erbyn menywod yn y BBC.
Edrychom ar sampl o gwynion cyflog ffurfiol ac anffurfiol a godwyd gyda’r BBC gan staff o 1 Ionawr 2016. Edrychom hefyd ar y systemau a’r prosesau a ddefnyddiodd y BBC ar gyfer gosod cyflog ac asesu cwynion.
Ni ddaethom o hyd i unrhyw wahaniaethu cyflog anghyfreithlon yn yr achosion a ddadansoddom yn ystod ein hymchwiliad. Ond nodom rai meysydd lle gall y BBC wneud gwelliannau i ailadeiladu ymddiriedaeth â menywod yn y sefydliad a chynyddu tryloywder ynghylch gwneud penderfyniadau a chyfathrebu.
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’n canfyddiadau a’n hargymhellion ar gyfer newid.