
Cynhaliodd y Comisiwn ymchwiliad i aflonyddu, gwahaniaethu ac erledigaeth anghyfreithlon staff Gwasanaeth yr Heddlu Metropolitanaidd (MPS) a wnaeth cwynion gwahaniaethu.
Cafodd yr ymchwiliad hwn ei lansio mewn ymateb i bryderon am driniaeth y MPS o swyddogion benywaidd a hoyw Du a lleiafrifoedd ethnig (BME).
Fe’i cynhaliwyd o dan adran 20 Deddf Cydraddoldeb 2006, sydd yn rhoi pwerau i’r Comisiwn i archwilio cydymffurfiaeth â deddfwriaeth cydraddoldeb pan fo’n drwgdybio bod gweithred anghyfreithlon wedi’i chyflawni.