
Archwilia’r ymchwil hwn sut y cafodd cydraddoldeb i bobl hŷn ac anabl ei ystyried wrth wneud penderfyniadau am drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn cynnwys:
- canfyddiadau’n dadansoddiad o strategaethau a pholisïau trafnidiaeth gyhoeddus allweddol
- tystiolaeth gan grwpiau ffocws gyda phobl hŷn ac anabl a drafododd am eu profiadau gwirioneddol, a sut mae trafnidiaeth yn methu ateb eu hanghenion
- argymhellion i gyrff cyhoeddus ar ddefnyddio Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus i ddatblygu system trafnidiaeth gyhoeddus gynhwysol yng Nghymru