
Mae ein hymchwiliad tai yn bwrw golwg ar ddarpariaeth gyfredol tai hygyrch a chymwysadwy ar gyfer pobl anabl a ddarperir gan awdurdodau lleol a landlordiaid cofrestredig.
Mae gan bobl anabl hawl i fyw’n annibynnol. Roeddem am ganfod i’r graddau yr oedd yr hawl hon yn cael ei chyflawni yng nghyd-destun tai.
Canfu’r adroddiad fod:
- pobl anabl yn cael eu digalonni’n aml gan y system tai ac yn teimlo’n rhwystredig
- mae diffyg sylweddol o dai hygyrch
- mae gosod addasiadau cartref yn gysylltiedig â biwrocratiaeth ac oedi annerbyniol
- nid yw pobl anabl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i fyw’n annibynnol
Mae’r adroddiad yn argymell bod mwy o dai cymwysadwy’n cael eu hadeiladu ar gyfer pobl anabl a dylai llywodraethau lleol a chenedlaethol ymgysylltu â phobl anabl yn y camau cynllunio.