
Mae’r adroddiad hwn yn bwrw golwg ar gyflwr hawliau menywod ym Mhrydain Fawr yn 2018.
Asesa’r cynnydd ar hawliau menywod ers 2013 a gwna argymhellion i lywodraeth y Deyrnas Unedig a llywodraeth Cymru, ym meysydd yn cynnwys:
- hyrwyddo statws hawliau dynol rhyngwladol ym maes cyfraith ddomestig
- trais ar sail rhywedd, aflonyddu a chamdriniaeth
- cymryd rhan ym mywyd gwleidyddol a dinesig
- mynediad i gyfiawnder sifil
- marchnata pobl a chaethwasiaeth fodern
- cadw yn y ddalfa a cheisio lloches
- iechyd, safonau byw a noddfa gymdeithasol
- gwaith ac addysg
Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno i’r Cenhedloedd Unedig fel rhan o’n gwaith ar fonitro’r Confensiwn ar Ddileu Pob Ffurf ar Wahaniaethu yn erbyn Menywod (CEDAW), y cytuniad hawliau dynol rhyngwladol sy’n canolbwyntio’n benodol ar gydraddoldeb rhwng menywod a dynion ym mhob agwedd ar fywyd.