Cynhaliom ymchwiliad i asesu'r driniaeth a phrofiadau gweithwyr o leiafrifoedd ethnig ar gyflog is ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, yn arbennig yn ystod y pandemig COVID-19.
Canfuom:
- ddata anghyflawn ar weithwyr o leiafrifoedd ethnig ar gyflogau is, yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol oedolion
- triniaethau a phrofiadau gwahanol yn y gwaith
- comisiynu ac allanoli yn arwain at gyflog gwael a gwaith ansicr
- ymwybyddiaeth isel o hawliau cyflogaeth
- ofn codi pryderon a diffyg mecanweithiau i wneud hynny
Rydym wedi cyhoeddi adroddiad am ein canfyddiadau, gan gynnwys ein hargymhellion ar gyfer newid.
Rydym hefyd wedi cynhyrchu papurau briffio ychwanegol ar gyfer llunwyr polisi sy’n manylu ymhellach ar yr hyn yr ydym am ei weld yn benodol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Darllen y papurau briffio lloegr a'r Alban.