Deng mlynedd – dal i fod prinder menywod ar y brig
Deng mlynedd – dal i fod prinder menywod ar y brig

Mae’r adroddiad hwn yn peintio darlun go ddu o Gymru. Un sy’n dangos bod menywod i raddau helaeth yn brin ar fyrddau penderfynyddion ar draws y rhan fwyaf o feysydd ein bywyd bob dydd.
Yn 2003 roedd y Cynulliad Cenedlaethol yn geffyl blaen gyda’i gydbwysedd perffaith cyntaf yn y byd rhwng y rhywiau o 30 o ddynion a 30 o fenywod. Gosododd feincnod dros degwch a chynnau ffagl gobaith. Ers hynny, annerbyniol o araf bu’r cynnydd cyffredinol. Mae Cymru i bob pwrpas yn stond ac mewn perygl difrifol o lithro tuag yn ôl.