
Amlinella’r polisi hwn sut y gwnawn ddefnyddio’n pwerau cyfreithiol o 2019 i 2022. Eglura:
- beth yw ein pwerau cyfreithiol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006
- yr hyn a wnawn ddefnyddio’n pwerau cyfreithiol ar ei gyfer
- sut wnawn benderfynu pryd i ddefnyddio’n pwerau cyfreithiol
Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth am sut all cynrychiolwyr a sefydliadau cyfreithiol wneud ceisiadau i ni ddefnyddio’n pwerau cyfreithiol.
Ni allwn ddarparu cyngor uniongyrchol i unigolion sydd am ein help â phroblem. Os ydych yn unigolyn ac angen help, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb.