Mae’r wybodaeth hon i bobl anabl.
Mae a wnelo â’ch hawliau pan fyddwch yn rhentu cartref o landlord preifat.
Hynny yw pan fyddwch yn rhentu cartref o berson sydd biau’r cartref.
Mae’r canllaw yn cynnwys:
- beth yw rhentu o landlord preifat?
- dod o hyd i’r lle iawn i fyw ynddo
- eich hawliau: dod o hyd i gartref
- eich hawliau: gwneud newidiadau i’ch cartref
- ble i gael cymorth
Canllaw hawdd ei ddarllen yw hwn.