
Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu golwg cyffredinol o beth mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei olygu i bleidiau gwleidyddol a’u haelodau.
Mae’n cynnwys eglurhad am y camau y gall pleidiau eu cymryd yn gyfreithlon i gynyddu cyfranogiad grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn swydd etholedig ac o fewn eu strwythurau plaid eu hunain.
Eglura hefyd pryd a sut y caiff aelodau pleidiau gwleidyddol, a phobl sy’n dymuno i ddod yn aelodau, eu diogelu rhag gwahaniaethu anghyfreithlon.
Mae’r gwybodaeth ar gyfer pleidiau gwleidyddol a’u haelodau. Bydd hefyd o ddiddordeb i bobl a sefydliadau sydd am weld mwy o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn ymwneud â gwleidyddiaeth.
Mae’r wybodaeth yn ymwneud â chyfraith cydraddoldeb a phleidiau gwleidyddol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.