
Rhan o gyfres yw’r canllaw cryno hwn a ysgrifennwyd gan y Comisiwn i egluro hawliau a dyletswyddau cydraddoldeb. Mae’r canllawiau hyn yn ategu gweithrediad Deddf Cydraddoldeb 2010 ac maen nhw’n trafod sut y mae diogelwch rhag gwahaniaethu anghyfreithlon yn cael ei ddarparu gan y Ddeddf Cydraddoldeb o ran: oedran; anabledd; ailbennu rhywedd; beichiogrwydd a mamolaeth (sydd yn cynnwys bwydo ar y fron); hil; crefydd a chred; rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.
Y rhestr lawn o ganllawiau ar wasanaethau yw:
Cymdeithasau a chlybiau
Busnesau
Cyfiawnder sifil a throseddol
Iechyd a gofal cymdeithasol
Systemau cyfiawnder troseddol a sifil a diogelwch gwladol
Cyngor lleol a llywodraeth ganolog a mewnfudo
Seneddau, gwleidyddion a phleidiau gwleidyddol
Sefydliadau sector gwirfoddol a chymunedol, gan gynnwys elusennau