Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED) yn golygu bod rhaid i sefydliadau’r sector cyhoeddus gymryd i gyfrif yr angen i:
- ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon
- hybu cyfle cyfartal
- meithrin perthynas dda rhwng cymunedau
Gall y trydydd sector (megis elusennau neu sefydliadau anllywodraethol) herio cyrff cyhoeddus yng Nghymru os nad ydynt yn cydymffurfio â’r PSED.
Er enghraifft, gall elusen sydd yn gweithio gyda phobl anabl herio corff cyhoeddus a ganiataodd i wahaniaethu ddigwydd.
Lluniwyd yr adnoddau ar y dudalen hon i helpu sefydliadau’r trydydd sector (sydd yn gweithio mewn maes yn ymwneud â nodweddion gwarchodedig i herio’r sector cyhoeddus pan yn briodol – i helpu gwneud Cymru yn le tecach.