Cynllun strategol: 2022 i 2025

Corfforaethol
 

Y gwledydd y mae'n berthnasol iddynt?

    • Prydain Fawr flag icon

      Prydain Fawr

First published: 29 Mar 2022

Mae ein cynllun strategol ar gyfer 2022 i 2025 yn egluro ein gweledigaeth a’n pwrpas a sut y byddwn yn diogelu ac yn hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol dros y tair blynedd nesaf.

Mae’n nodi’r chwe maes blaenoriaeth y byddwn yn canolbwyntio arnynt er mwyn sicrhau bod pawb yn cael cyfle teg mewn bywyd,sef:

  1. cydraddoldeb mewn gweithle sy’n newid
  2. cydraddoldeb i blant a phobl ifanc
  3. cynnal hawliau a chydraddoldeb ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
  4. mynd i’r afael ag effaith gwasanaethau digidol a deallusrwydd artiffisial ar gydraddoldeb a hawliau dynol
  5. meithrin perthynas dda a hybu parch rhwng grwpiau
  6. sicrhau fframwaith cyfreithiol effeithiol i ddiogelu cydraddoldeb a hawliau dynol

Lawrlwytho fersiwn cymraeg

Lluniwyd ein cynllun strategol gan ymatebion i'n hymgynghoriad cyhoeddus, a gynhaliwyd rhwng 16 Awst a 30 Medi 2021. Cawsom ymatebion gan unigolion a sefydliadau, sydd wedi ein helpu i ddatblygu ein cynlluniau ar gyfer y tair blynedd nesaf. Hoffem ddiolch i bawb a ymatebodd i’r ymgynghoriad.

Lawrlwythwch yr adroddiad ymgynghori