
Eglura ein cynllun strategol ar gyfer 2019 i 2022 sut fyddwn yn amddiffyn a hybu cydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain dros y tair blynedd nesaf.
Mae’n amlinellu tri chyrchnod strategol i sicrhau bod pawb ym Mhrydain yn cael cyfle teg.
Y rhain yw:
- i sicrhau na gaiff cyfleoedd bywyd pobl eu dal yn ôl gan rwystrau yn eu ffordd
- i sicrhau bod seiliau cryf gennym y gellir arnynt adeiladu cymdeithas fwy cyfartal sydd yn parchu hawliau
- i amddiffyn hawliau pobl yn y sefyllfaoedd mwyaf bregus
Cafodd ein Cynllun Strategol 2019-22 ei lunio gan yr ymatebion a gafwyd mewn ymgynghoriad cyhoeddus a redodd o 2 Tachwedd 2018 i 7 Ionawr 2019. Cawson ni fwy na 1,000 o ymatebion, sydd wedi ein helpu i lunio’n cynlluniau ar gyfer y tair blynedd nesaf a thu hwnt. Hoffem ddiolch i bawb a ymatebodd i’r ymgynghoriad.