
Mae ein strategaeth yn amlinellu beth sydd angen ei newid a phwy sydd angen cymryd camau i leihau bylchau cyflog ar sail rhywedd, ethnigrwydd ac anabledd.
Cafodd yr argymhellion eu seilio ar dystiolaeth newydd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i faint ac achosion y bylchau cyflog hyn, ac a yw ymyriadau hyd yn hyn wedi bod yn llwyddiannus.
Mae’r Comisiwn yn galw ar lywodraethau’r DU, Cymru a’r Alban i fynd i’r afael â bylchau cyflog mewn modd cynhwysfawr a chydlynol.
Yn bennaf bwriedir yr adroddiad hwn i lywodraethau’r DU, Cymru a’r Alban a chyflogwyr, ond bydd yn ddefnyddiol hefyd i unrhyw un yn gweithio tuag at wella cydraddoldeb o ran rhywedd, ethnigrwydd ac anabledd.