
Lansiom ymchwiliad i ddeall profiadau diffynyddion anabl a phobl gyhuddedig yn y system cyfiawnder troseddol. Edrychom ar:
- a yw eu hanghenion yn cael eu nodi’n briodol
- y mathau o addasiadau sydd yn cael eu gwneud i ddiwallu’u hanghenion, ac
- a ydynt yn gallu cyfranogi’n llawn ym mhrosesau’r llys a deall y cyhuddiadau maent yn eu hwynebu
Ar sail ein canfyddiadau, gwnawn argymhellion i Lywodraethau’r DU.
Wrth i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ddefnyddio gwrandawiadau fideo yn fwyfwy wrth ymateb i’r pandemig, cyhoeddom ganfyddiadau dros dro ym mis Ebrill o’r ymchwiliad hwn, i helpu lliniaru’r risgiau y mae’r technolegau hyn yn eu gosod ar bobl anabl yn y system cyfiawnder troseddol.