Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru nesaf i lunio cynllun gweithredu uchelgeisiol i wneud Cymru yn arweinydd byd ar gydraddoldeb a hawliau dynol. Mae’r papur hwn yn amlygu deg blaenoriaeth yr ydym am i bleidiau gwleidyddol yng Nghymru i’w hamlygu yn eu maniffestos a’u cyflawni yn y rhaglen nesaf o Lywodraeth. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Adeiladu amddiffynfeydd cydraddoldeb a hawliau dynol mewn cyfraith
- Gwneud dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus mor effeithiol â phosib
- Amddiffyn yr hawl i fyw’n annibynnol a gofal urddasol
- Lleihau tlodi a’i effaith ar draws pob rhan o fywyd
- Gweithredu i ddileu anghydraddoldeb hil