
Ein hadroddiad yn bwrw golwg ar nifer y cyflogwyr sydd wedi cyhoeddi eglurhad o’u ffigurau bwlch cyflog rhwng y rhywiau neu gynllun gweithredu i ddangos yr hyn y maen nhw’n ei wneud i leihau eu bylchau cyflog rhwng y rhywiau.
Rydym o’r farn y dylai fod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i bob cyflogwr gyhoeddi’r wybodaeth hon, yn enwedig cynlluniau gweithredu sydd yn rhwym i derfyn amser ac yn cynnwys targedau penodol a mesuradwy.
Anelir yr adroddiad hwn at gyflogwyr a llywodraethau’r DU, Cymru a’r Alban, ond bydd yn ddefnyddiol hefyd i unrhyw un yn gweithio tuag at gau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau.