
Fe wnaethom asesu sut a ph’un ai a oedd y Swyddfa Gartref wedi cydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED) wrth lunio, rhoi ar waith a monitro’r agenda polisi amgylchedd gelyniaethus.
Roeddem am ganfod beth a wnaeth y Swyddfa Gartref i ddeall yr effaith y gallai’i pholisïau a’i harferion gael, ac yna a gafodd ar aelodau Du’r genhedlaeth Windrush a’u disgynyddion. Roeddem am wybod sut weithredodd y Swyddfa Gartref ar wybodaeth gydraddoldeb, ac yn fwy cyffredinol, rhoi’r PSED ar waith yn ei diwylliant a’i phrosesau.
Canfuom nad oedd y Swyddfa Gartref wedi cydymffurfio ag adran 149 Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus).
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’n canfyddiadau a’n hargymhellion ar gyfer newid.
Lawr lwytho’r adroddiad (yn Saesneg)