
Mae’r adroddiad hwn yn adolygu tystiolaeth sydd yn bodoli ar ddefnyddio camau cadarnhaol i fynd i’r afael â chynrychiolaeth annigonol grwpiau lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl a menywod ym maes prentisiaethau.
Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu canfyddiadau trafodaeth bord gron ag academyddion ac arbenigwyr llywodraeth a pholisi.
Mae’n cynnwys Cymru, Lloegr a’r Alban.
Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, gan weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Caer a’r Young Women’s Trust.