
Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r hyn sydd wedi’i wneud i amddiffyn hawliau dynol ym Mhrydain Fawr ers ein hadroddiad diwethaf yn 2017. Mae’n ymdrin ag 11 maes gwahanol o fywyd, gan gynnwys:
- iechyd
- addysg
- gwaith
- cyfiawnder, rhyddid a diogelwch personol.
Mae hefyd yn rhoi argymhellion i lywodraethau’r DU a Chymru ar sut i amddiffyn hawliau dynol yn well a chyflawni eu rhwymedigaethau rhyngwladol.
Cyflwynwyd yr adroddiad hwn i’r Cenhedloedd Unedig ym mis Mawrth 2022 ar gyfer pedwerydd Adolygiad Cyfnodol Cyffredinol y DU. Bydd hefyd yn ddefnyddiol i seneddwyr, cymdeithas sifil a rhanddeiliaid eraill sy'n gweithio ar y materion dan sylw.