Mae’r adroddiad hwn yn darparu gwybodaeth am brofiadau pobl o herio, neu geisio herio, penderfyniadau’n ymwneud â’u gofal cymdeithasol neu gymorth i oedolion. Cafodd y gwaith ymchwil ei gomisiynu er mwyn hysbysu ymchwiliad statudol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) i herio penderfyniadau’n ymwneud â gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru a Lloegr, a edrychodd ar:
- benderfyniadau mewn perthynas ag asesiad o anghenion gofal neu gymorth
- penderfyniadau ynglŷn â sut neu ble y caiff anghenion gofal cymdeithasol neu gymorth eu diwallu, a
- penderfyniadau sy’n arwain at newid yn yr anghenion y mae’r awdurdod lleol yn derbyn sydd angen gofal neu gymorth, neu newid pecyn gofal neu gymorth yn dilyn adolygiad.
Mae’r adroddiad hwn yn seiliedig ar gyfweliadau â 41 o bobl wedi eu strwythuro’n rhannol a ddefnyddiodd gwestiynau agored er mwyn adnabod straeon cyfranogwyr. Fe dynnom themâu allan yn ymwneud â phenderfyniadau, heriadau a chanlyniadau. Mae’r cyfweliadau ansoddol hyn yn darparu data cyfoethog ynglŷn â phrofiadau unigol nad ydynt, o bosibl, yn gynrychiadol o brofiadau pawb.