
O dan gyfraith cydraddoldeb, rhaid i gyflogwyr gymryd camau rhesymol i atal gweithwyr rhag dioddef aflonyddu rhywiol gan eu cydweithwyr.
Mae’r canllaw byr hwn i gyflogwyr yn cynnig eglurhad cyfreithiol a saith cam i atal aflonyddu rhywiol, gan gynnwys:
- llunio polisi gwrth-aflonyddu effeithiol
- asesu a lleihau risgiau i’r eithaf
- ymgysylltu â staff a’u hyfforddi
- yr hyn i’w wneud pan godir cwyn aflonyddu
- delio â thrydydd parti
Cymerir y camau hyn o’n canllaw ar aflonyddu rhywiol ac aflonyddu yn y gweithle sydd yn cynnig mwy o wybodaeth ar sut mae’r gyfraith yn gweithio a chanllaw manwl ar y camau y dylai cyflogwyr eu cymryd i atal ac ymateb i aflonyddu yn y gweithle.