Polisi a gweithdrefn cwyno

Wedi ei gyhoeddi: 22 Gorffenaf 2016

Diweddarwyd diwethaf: 22 Gorffenaf 2016

Coronafirws (COVID-19) - diweddariad

Yn dilyn cyngor y llywodraeth i atal gwasgariad y coronafirws (COVID-19), mae pob un o’n swyddfeydd wedi’u cau ac mae staff bellach yn gweithio o’u cartrefi.

Yn ystod y cyfnod hwn ni fyddwn yn gallu casglu unrhyw bost a ddanfonwyd i’n swyddfeydd. Wnewch chi sicrhau y caiff unrhyw bost, a ddanfonwyd atom ni yn y saith diwrnod diwethaf, ac unrhyw ohebiaeth yn y dyfodol ei anfon atom drwy e-bost tan nes hysbysir fel arall:

Os nad yw’r trefniadau dros dro hyn yn hygyrch i chi, cysylltwch â ni ar 0161 829 8327, gadewch neges ac fe wnawn eich galw’n ôl i drafod ffyrdd o wneud addasiadau.

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn rhwym o ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i bawb. Er mwyn gwneud felly rydym angen i chi roi sylwadau i ni am ein gwasanaeth, ac i ddweud wrthym pan mae pethau’n mynd o chwith.  Rydym am eich helpu i ddatrys eich cwyn cyn gynted â phosibl.

Rydym yn trin fel cwyn unrhyw fynegiant o anfodlonrwydd â’n gwasanaeth sydd yn galw am ymateb. Byddwn yn gwrando ar eich cwynion, yn eu trin o ddifrif, a dysgu ganddyn nhw fel y gallwn wella ein gwasanaeth yn barhaus.

Lawr lwytho ein Polisi a Gweithdrefn Cwyno 

Cwrteisi a pharch

Gallwch ddisgwyl i gael eich trin â chwrteisi, parch a thegwch ar bob achlysur.  Byddwn yn disgwyl hefyd i chi drin ein staff sy’n delio â’ch cwyn gyda’r un cwrteisi, parch a thegwch.

Ni fyddwn yn goddef ymddygiad bygythiol, sarhaus nag afresymol gan unrhyw achwynydd. Prin yw sefyllfaoedd o’r fath, fodd bynnag, pe baen nhw’n digwydd, byddwn yn dod â’r cyfathrebiad gyda’r achwynydd i ben ar unwaith yn unol â’n Polisi Cwynion Blinderus ac Ymddygiad Afresymol a Sarhaus (gweler tudalennau 12-16 o’n Polisi Cwyno), a byddwn yn hysbysu’r awdurdodau priodol yn ôl yr angen.

Sut i gwyno

Gallwch gwyno:

drwy anfon e-bost i: complaints@equalityhumanrights.com

neu drwy’r post i:

Attention: Correspondence Unit
Equality and Human Rights Commission
Arndale House
The Arndale Centre
Manchester M4 3AQ

Cwyno yn Gymraeg

Mae croeso i chi anfon cwynion atom yn Gymraeg.

Addasiadau rhesymol

Os ydych am addasiad rhesymol oherwydd eich bod yn anabl ac ni allwch gysylltu â ni yn ysgrifenedig, gweler yr adran Cysylltu â ni ar dudalen 11 ein Polisi Cwyno (dolen uchod) ar gyfer manylion ar sut y gallwch gofrestru eich cwyn, neu drafod eich anghenion addasiad gyda ni.

Gweler hefyd:

Diweddariadau tudalennau