Ymchwil a thystiolaeth

Mae ein hymchwil yn ymchwilio i gydraddoldeb a hawliau dynol ledled Cymru, Lloegr a'r Alban.

Rydym yn adeiladu sylfaen dystiolaeth gref i ddylanwadu ar bolisi, llywio ein blaenoriaethau a gwella bywydau pobl.

Rydym yn cynnal prosiectau ymchwil mawr i faterion dybryd yn ymwneud ag anghydraddoldeb cymdeithasol a meysydd lle mae ein hawliau dynol dan fygythiad.

Mae ein hymagwedd yn amrywio, o gyfweliadau ag aelodau o'r cyhoedd i ddadansoddiad ystadegol cymhleth o setiau data mawr, megis arolygon cartrefi.

Ymunwch â'n cronfa ddata ymchwil: anfonwch e-bost atom i ymuno â'n cronfa ddata ymchwil a derbyn bwletin chwarterol cryno am ein newyddion, datblygiadau ac adroddiadau diweddaraf.

Rhestrau darllen: rydym yn darparu detholiad o restrau darllen ar thema cydraddoldeb a hawliau dynol ar rai o’r pynciau rydym yn eu cwmpasu. Os ydych yn ymchwilio i gydraddoldeb a hawliau dynol, anfonwch e-bost at ein llyfrgell i ofyn am restr ddarllen .