Sign outside a public building Sign outside a public building

Ymchwiliadau, archwiliadau a phwerau ehangach

Cyflwyniad

Un o rolau allweddol y Comisiwn fel rheolydd modern yw defnyddio ein pwerau gorfodi. Cafodd y pwerau hyn eu breinio i’r Comisiwn gan Ddeddf Cydraddoldeb 2006. Am ragor o wybodaeth lawr lwythwch ein Polisi gorfodi a chydymffurfio

Mae gan y Comisiwn ddyletswyddau penodol o ran gorfodi:

  • i sicrhau bod deddfau cydraddoldeb yn cael eu gorfodi, ac
  • i weithio tuag at ddileu gwahaniaethu ac aflonyddu.

Mae ein pwerau yn caniatáu i ni ofyn bod cyflogwyr, darparwyr gwasanaeth, sefydliadau addysgol, cyrff cyhoeddus a darparwyr tai:

  • yn darfod unrhyw ymarferion gwahaniaethol, a
  • gwneud y newidiadau sy’n angenrheidiol i atal gwahaniaethu neu beidio â chydymffurfio yn y dyfodol.

Fel y dengys yr astudiaethau achos ad-orfodi hyn, mae’r Comisiwn yn effeithiol dros ben wrth ddatrys materion heb yr angen am achosion ffurfiol. Pan fo ymdrechion i annog cydymffurfiaeth yn aflwyddiannus fodd bynnag, gallwn gymryd camau gorfodi ffurfiol.

Gallai hyn gynnwys:

  • ymchwiliadau
  • archwiliadau
  • hysbysiadau gweithredu anghyfreithlon
  • cytundebau
  • asesiadau
  • hysbysiadau cydymffurfio

Mae ymholiad yn ffordd i ni ganfod rhagor am gydraddoldeb, amrywiaeth neu hawliau dynol o fewn sector neilltuol neu am broblem neilltuol.

Gall y Comisiwn gynnal ymchwiliad i unrhyw fater sy’n ymwneud ag adrannau 8 neu 9 y Ddeddf Cydraddoldeb (cydraddoldeb ac amrywiaeth neu hawliau dynol). Nid oes angen i ni amau bod achos o fynd yn groes i ddeddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau dynol wedi digwydd i lansio ymchwiliad.  

Wrth lansio ymchwiliad bydd rhaid i’r Comisiwn:

  • gyhoeddi’r cylch gorchwyl (TORs)
  • gall y Comisiwn ofyn i sefydliadau ac unigolion ddarparu gwybodaeth o ran y TORs.
  • mae gan y Comisiwn y pŵer i gwestiynu’r wybodaeth a gyflwynwyd ymhellach
  • rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi adroddiad o’i ganfyddiadau.

Os ar unrhyw adeg yn ystod yr ymchwiliad byddwn yn amau bod gweithredu anghyfreithlon wedi digwydd, byddwn yn ystyried lansio archwiliad.

Ar sail ein canfyddiadau gallwn wneud argymhellion ar gyfer newid a gwella polisïau, ymarfer a deddfwriaeth i unrhyw sefydliad, a bydd rhaid iddyn nhw roi sylw i’n hargymhellion.

Os yw llys neu dribiwnlys yn gwrando ar achos am broblem sydd wedi bod yn destun i ymchwiliad gan y Comisiwn, gallai ystyried canfyddiadau adroddiad yr ymchwiliad, ond nid oes rhaid iddo eu hystyried yn derfynol.

Ymchwiliad i farwolaethau oedolion yn y ddalfa gyda chyflyrau iechyd meddwl

Edrychodd ein hymchwiliad ar farwolaethau annaturiol oedolion gyda chyflyrau iechyd meddwl a oedd yn cael eu cadw’n gaeth yng Nghymru a Lloegr, gyda gwaith cyfochrog yn cael ei gynnal yn yr Alban. Canolbwyntiom ar garchardai, dalfeydd yr heddlu ac ysbytai seiciatrig, gan fod cannoedd o farwolaethau yn digwydd bob blwyddyn a ystyrir yn ddiweddarach fel rhai y gellid eu hatal. Canfyddwch ragor am yr ymchwiliad.

Ymchwiliad i aflonyddu ar sail anabledd

Edrychodd ein hymchwiliad ar y cynnydd y mae cyrff cyhoeddus yn ei wneud o ran atal a delio ag aflonyddu ar sail anabledd. Dangosodd ein hadroddiad terfynol fod cannoedd ar filoedd o bobl anabl yn dioddef trais a bwlio yn rheolaidd, llawer ohono’n digwydd heb gydnabyddiaeth gan awdurdodau cyhoeddus. Canfyddwch ragor am yr ymchwiliad.

Mae Adran 16 Deddf Cydraddoldeb 2006 yn rhoi manylion pellach.

Ymchwiliadau ac archwiliadau’r Comisiwn.

Gall y Comisiwn gynnal archwiliad i ddarganfod a allai sefydliad fod wedi ymgymryd â gweithred neu’n ymgymryd â gweithred sy’n anghyfreithlon o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Dim ond pan fyddwn yn amau bod sefydliad wedi gweithredu’n anghyfreithlon y gallwn ddechrau ar archwiliad.

Gall y camau at archwiliad gynnwys:

  • darparu manylion o paham y gallai gweithred fod yn anghyfreithlon
  • darparu cyfle i sefydliad rhoi sylw ar gylch gorchwyl yr ymchwiliad a chymryd y rhain i gyfrif
  • cyhoeddi’r cylch gorchwyl terfynol
  • yn gofyn i’r sefydliad ddarparu gwybodaeth, dogfenni neu dystiolaeth lafar.
  • cyhoeddi adroddiad terfynol yn datgan a yw’r sefydliad wedi gweithredu’n anghyfreithlon.

Caiff y rhai a archwilir copi o’r adroddiad drafft cyn y caiff ei gyhoeddi a chyfnod lleiafswm o 28 diwrnod i ddarparu sylwadau ysgrifenedig i’r Comisiwn cyn y caiff ei gyhoeddi.

Bydd y Comisiwn yn gwneud argymhellion yn seiliedig ar y canfyddiadau. Gall y methiant i weithredu ar argymhellion arwain at y Comisiwn yn cyhoeddi hysbysiad gweithredu anghyfreithlon.

Archwiliad i Wasanaeth Heddlu’r Metropolitan

Mae’r Comisiwn yn cynnal archwiliad i wahaniaethu, aflonyddu ac erlid anghyfreithlon ar gyflogeion Gwasanaeth Heddlu’r Metropolitan. 

Canolbwynt yr archwiliad yw adroddiad Fairness at Work y Met a gweithdrefnau camymddwyn. Caiff ei gynnal o dan adran 20 Deddf Cydraddoldeb 2006, sy’n rhoi pwerau i’r Comisiwn archwilio cydymffurfiaeth â deddfwriaeth cydraddoldeb pan fo’n amau bod gweithred anghyfreithlon wedi ei chyflawni.

Mae Adran 20 Deddf Cydraddoldeb 2006 wedi rhoi manylion pellach.

Rhagor o wybodaeth ar archwiliadau’r Comisiwn.

Hysbysiadau Gweithredu Anghyfreithlon

Os bydd ymchwiliad yn canfod bod sefydliad wedi cyflawni gweithred anghyfreithlon, gall y Comisiwn gyhoeddi hysbysiad gweithredu anghyfreithlon. Mae hwn yn rhoi manylion y camweithredu a gall argymell unrhyw gamau angenrheidiol i osgoi iddo gael ei ailadrodd neu ei barhau. Gallwn hefyd ofyn am gynllun gweithredu i’w baratoi.

Mae Adran 21 Deddf Cydraddoldeb 2006 yn rhoi manylion pellach.

Cytundebau

Gall y Comisiwn ymgymryd â chytundeb ffurfiol â pherson neu sefydliad y mae o’r farn ei fod wedi cyflawni gweithred anghyfreithlon. Drwy ymgymryd â chytundeb, mae’r person neu sefydliad yn cytuno i beidio â chyflawni gweithred anghyfreithlon. Fel y cyfryw, mae’n aml yn ddewis amgenach effeithiol i gamau gorfodi ffurfiol eraill.

Gellir ymgymryd â chytundebau heb archwiliadau ffurfiol a bydd yn ymwneud â rhoi cynllun gweithredu yn ei le. Mae’n bwysig nodi er iddo gytuno i gynllun gweithredu nid yw’r unigolyn na’r sefydliad fodd bynnag yn cyfaddef fod gweithred anghyfreithlon wedi ei chyflawni.

Unwaith fo’r cytundeb a’r cynllun gweithredu ar waith, byddwn yn cysylltu â’r person neu’r sefydliad yn rheolaidd, a bydd rhaid iddyn nhw adrodd yn rheolaidd ar gynnydd. Os na fyddan nhw’n cydymffurfio â’r cytundeb, neu rydym o’r farn nad yw’n debygol y byddan nhw’n cydymffurfio, gallwn gymryd camau pellach drwy’r llysoedd.

At hynny, gallai’r Comisiwn ohirio’r archwiliad os wnaiff y sefydliad sy’n cael ei harchwilio gytuno i ymgymryd â chytundeb adran 23 gyda chynllun gweithredu. Bydd hyn yn golygu na fyddwn yn ailddechrau’r archwiliad os bydd y sefydliad yn cydymffurfio â thelerau’r cytundeb a’r cynllun gweithredu.

Mae Adran 23 Deddf Cydraddoldeb 2006 yn rhoi manylion pellach.

Rhagor o wybodaeth ar gytundebau’r Comisiwn.

Mae’r adran hon yn gymwys i’r cyrff cyhoeddus hynny sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd cydraddoldeb. Rhestrir y cyrff hyn yn Atodlen 19 Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ychwanegol i unrhyw sefydliad sy’n ymgymryd â swyddogaeth gyhoeddus. Mae’r ddyletswydd yn gymwys i swyddogaethau cyhoeddus sefydliadau yn unig ac nid i unrhyw swyddogaethau preifat y bydd yn ymgymryd â nhw.

Mae’r ‘ddyletswydd cydraddoldeb’ yn gofyn i gyrff roi sylw dyledus i’r angen i ddileu gwahaniaethu, hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin perthynas dda wrth lunio polisïau a chyflenwi gwasanaethau. Daeth i rym ar 5 Ebrill 2011, gan ddwyn ynghyd y tair dyletswydd flaenorol ar hil, anabledd a rhywedd, a’i hymestyn hefyd i gwmpasu oed, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gred, beichiogrwydd a mamolaeth ac ailbennu rhywedd.

Mae hefyd ddyletswyddau penodol i helpu cyrff i gyflawni tri nod dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. Mae’r dyletswyddau penodol hyn yn wahanol ymhob un o’r tair cenedl.

I weld a yw corff cyhoeddus yn cydymffurfio â naill y ddyletswydd gyffredinol neu’r ddyletswydd benodol, gallwn ymgymryd ag asesiad. Gellir defnyddio asesiadau i gael tystiolaeth ar gyfer camau gorfodi pellach, yn ogystal â nodi meysydd o arfer orau. Nid oes rhaid i ni ddrwgdybio bod achos o fynd yn groes i’r ddyletswydd gyhoeddus wedi digwydd i gynnal asesiad, ac mae pwerau cadarn gennym i geisio am dystiolaeth a gwybodaeth yn ystod yr asesiad.

Gwneud penderfyniadau ariannol teg: Trysorlys EM

Ym mis Mai 2012, yn dilyn asesiad, cyhoeddom adroddiad carreg filltir i’r graddau yr oedd Trysorlys EM yn cyflawni ei rwymedigaethau cyfreithiol i ystyried effaith Adolygiad Gwariant 2010 y Llywodraeth ar bobl gyda nodweddion gwarchodedig gwahanol. Ers cyhoeddi’r adroddiad, bu’r Comisiwn yn gweithio gyda Thrysorlys EM ac eraill ar yr argymhellion. Canfyddwch ragor am yr asesiad i Thrysorlys EM.

Hysbysiadau cydymffurfio

Mae’r adran hon yn gymwys i’r cyrff cyhoeddus hynny sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd cydraddoldeb. Rhestrir y cyrff hyn yn Atodlen 19 Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ychwanegol i unrhyw sefydliad sy’n ymgymryd â swyddogaeth gyhoeddus. Mae’r ddyletswydd yn gymwys i swyddogaethau cyhoeddus sefydliadau yn unig ac nid i unrhyw swyddogaethau preifat y bydd yn ymgymryd â nhw.

Os bydd y Comisiwn o’r farn nad yw corff cyhoeddus wedi cydymffurfio â’i ddyletswydd cydraddoldeb, mae gennym y pwer i gyflwyno hysbysiad cydymffurfio. Gallai hyn ofyn iddo gydymffurfio â’r ddyletswydd, neu allai rhoi manylion y camau sydd angen eu cymryd i sicrhau cydymffurfiaeth. Gallai hysbysiad hefyd ofyn i’r Comisiwn i weld a yw’n cydymffurfio.

Os na fydd y sefydliad yn cydymffurfio â’r hysbysiad, gallwn wneud cais am orchymyn llys yn gofyn iddi gydymffurfio. Mae peidio â chydymffurfio â gorchymyn llys yn drosedd.

Mae Adran 32 Deddf Cydraddoldeb 2006 yn rhoi manylion pellach.

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Aug 2017