

Ymchwiliadau ac archwiliadau
Yn yr adran hon cewch fanylion ymchwiliadau ac archwiliadau a wnaed gan y Comisiwn i sicrhau bod pobl a sefydliadau yn cyflawni eu cyfrifoldebau cyfreithiol a moesol o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau dynol.
-
Ydy’r BBC yn talu menywod a dynion yn gyfartal am waith cyfwerth
Rydym wedi lansio ymchwiliad i wahaniaethu ar sail cyflog yn y gorffennol a ddrwgdybir a wnaed yn erbyn menywod yn y BBC.
-
Ydy’r system cyfiawnder troseddol yn trin pobl anabl yn deg?
Rydym am ddeall profiadau diffynyddion neu gyhuddedigion anabl yn y system cyfiawnder troseddol.
-
Aflonyddu hiliol ym maes addysg uwch: ein hymchwiliad
https://www.equalityhumanrights.com/cy/inquiries-and-investigations/aflonyddu-hiliol-ym-maes-addysg-uwch-ein-hymchwiliad
-
Cymorth cyfreithiol ar gyfer dioddefwyr gwahaniaethu: ein hymchwiliad
Rydym wedi lansio ymchwiliad i fwrw golwg ar b’un ai a yw cymorth cyfreithiol yn gallogi pobl sy’n cyflwyno cwyn gwahaniaethu yng Nghymru a Lloegr i gael cyfiawnder.
-
Tai a phobl anabl: argyfwng cudd Prydain
Canlyniadau ein hymchwiliad i argaeledd tai hygyrch a chymeradwy, a’r gwasanaethau cymorth yn ei gylch, yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
-
Atal Marwolaethau Oedolion â Chyflyrau Iechyd Meddwl yn y Ddalfa
Gwnaeth yr ymchwiliad hwn fwrw golwg ar farwolaethau annaturiol oedolion â chyflyrau iechyd meddwl yn y ddalfa yng Nghymru a Lloegr. Canolbwyntiom ar garchardai, dalfeydd yr heddlu ac ysbytai seiciatrig.
-
Ymchwiliad i benodiadau bwrdd cwmnïau FTSE 350
Gwnaeth yr ymchwiliad hwn fwrw golwg ar arferion penodi lefel bwrdd prif gwmnïau FTSE 350. Y nod yw nodi arferion recriwtio sy’n gwneud gwahaniaeth ac yn cyflenwi penodiadau agored, teg ac yn seiliedig ar deilyngdod.
-
Ymchwiliad i Wasanaeth Heddlu’r Metropolitan
Bydd y Comisiwn yn ymgymryd ag ymchwiliad i wahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon gan Wasanaeth Heddlu’r Metropolitan ar eu cyflogeion wrth ymateb i bryderon ynglŷn â’u triniaeth o swyddogion benywaidd, Du a Lleiafrifoedd Ethnig a Hoyw.
-
Penderfyniadau Ariannol Teg: Adroddiad Asesiad Adran 31
Mae hwn yn adrodd i’r graddau y cyflawnodd Trysorlys EM ei rwymedigaethau cyfreithiol i ystyried effaith Adolygiad Gwariant 2010 y Llywodraeth ar bobl â nodweddion gwarchodedig.
-
Ymchwiliad i aflonyddu ar sail anabledd
Datgelodd ein hymchwiliad i aflonyddu ar sail anabledd fod cannoedd o bobl anabl yn dioddef trais a bwlio yn rheolaidd, llawer ohono heb gael unrhyw gydnabyddiaeth gan awdurdodau cyhoeddus.
-
Ymchwiliad i ofal cartref pobl hŷn
Gwnaeth yr ymchwiliad hwn fwrw golwg ar effeithiolrwydd system cymorth a gofal Lloegr wrth ddiogelu a hyrwyddo hawliau dynol pobl hŷn yn gofyn am neu’n cael gofal a chymorth yn eu cartrefu eu hunain.
-
Ymchwiliad i recriwtio a chyflogaeth yn y sector cig a dofednod
Datgelodd yr ymchwiliad hwn honiadau o gam-drin a gwahaniaethu yn erbyn gweithwyr asiantaeth a menywod beichiog yn y diwydiant cig a dofednod.
-
Ymchwiliad i Farchnata Pobl yn yr Alban
Canolbwyntiodd yr ymchwiliad hwn ar farchnata pobl i ddibenion cam-fanteisio rhywiol masnachol. Yn sgil y canfyddiadau cafodd deg argymhelliad eu cyflwyno i wneud yr Alban yn amgylchedd mwy gelyniaethus i fasnachwyr pobl.
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Jul 2021