Y Comisiwn yw’r corff rheoleiddiol yn gyfrifol am orfodi Deddf Cydraddoldeb 2010. Rydym hefyd wedi’n hachredu gan y Cenhedloedd Unedig fel ‘sefydliad hawliau dynol cenedlaethol statws A’. Mae ein dyletswyddau yn cynnwys lleihau anghydraddoldeb, dileu gwahaniaethu a hybu ac amddiffyn hawliau dynol.
Ffocws ein rôl reoleiddiol yw helpu sefydliadau i gyflawni'r hyn y dylen nhw, nid eu dal ar eu bai pan fydd diffygion. I’n helpu i wneud hyn, mae gennym ystod o bwerau. Mae’r rhain yn cynnwys darparu cyngor a chanllaw, cyhoeddi gwybodaeth ac ymgymryd ag ymchwil.
Pan fydd y dulliau hyn yn aneffeithiol, mae gennym hefyd ystod o bwerau gorfodi. Amlinellir y pwerau hyn yn Neddf Cydraddoldeb 2006 ac maent yn chwarae rhan hanfodol wrth ein helpu i wneud gwahaniaeth.
Mae nifer o ddulliau gwahanol y gallwn eu cymryd, yn dibynnu ar yr amgylchiadau arbennig yr ydym yn ceisio eu newid. Maent yn amrywio o ganllaw a chynhorthwy i ymchwiliadau ac achosion llys.
Ni fyddwn yn ymwneud â phob problem neu anghydfod, fodd bynnag. Byddwn yn defnyddio’n pwerau cyfreithiol neu orfodi dim ond pan y nhw yw’r ffordd orau i gyflawni newid, megis:
i egluro’r gyfraith, fel bo gan bobl a sefydliadau ddealltwriaeth glir o’u hawliau a’u dyletswyddau
i amlygu materion blaenoriaeth a’u gorfodi’n ôl i frig yr agenda
i herio polisiau neu arferion sy’n achosi anfantais sylweddol, weithiau ar draws ddiwydiant neu sector cyfan
I wneud hyn, byddwn yn defnyddio’r llysoedd a thribiwnlysoedd i sicrhau dyfarniadau positif sy’n rhwymo ac a fydd yn ail-gyfnerthu, cyfnerthu neu’n ymestyn hawliau pobl.
Drwy ddefnyddio’n pwerau yn y ffordd hon, bydd ein gweithgareddau cyfreithiol yn sicrhau buddion eang a pharhaol, gan ddylanwadu ar brofiadau bob dydd filiynau o unigolion.