Traciwr hawliau dynol
Defnyddiwch ein traciwr hawliau dynol i weld sut mae cytuniadau’r CU yn cael eu monitro ac a yw’r DU yn bodloni safonau rhyngwladol. Chwiliwch am wybodaeth benodol ar argymhellion y CU, ymatebion y llywodraeth ac ar ba gam mae’r DU arno ar hyn o bryd ymhob un cylch adolygu.
Fel Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol (NHRI), byddwn yn monitro cydymffurfiaeth y DU â saith cytuniad hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig (CU) y mae wedi cytuno i’w dilyn.
Mae’r hawliau yn y cytuniadau hyn yn cynrychioli rhwymedigaethau ym maes cyfraith ryngwladol. Golyga hynny fod y DU wedi addo i sicrhau bod ei chyfreithiau domestig a pholisïau yn cydymffurfio â nhw.
Byddwn yn cyflwyno adroddiadau cysgodol ar y cynnydd a wnaed gan y DU i Bwyllgorau perthnasol y CU, a fydd yn penderfynu, a yw’r DU yn cydymffurfio â’r cytuniadau.
Bydd Comisiwn Hawliau Dynol yr Alban a Chomisiwn Hawliau Dynol Gogledd Iwerddon hefyd yn cyflwyno adroddiadau yn cynnwys y materion hawliau dynol datganoledig yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Gall sefydliadau cymdeithas sifil hefyd gyflwyno adroddiadau cysgodol i Bwyllgorau’r CU. Byddwn yn cefnogi cymdeithas sifil i ddeall a defnyddio’r cytuniadau i wella atebolrwydd y llywodraeth.
Y saith cytuniad yw:
- Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol (ICCPR)
- Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR)
- Confensiwn Rhyngwladol ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu ar Sail Hil (CERD)
- Confensiwn ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod (CEDAW)
- Confensiwn yn erbyn Arteithio a Thriniaeth Greulon, Annynol neu Ddiraddiol Arall (CAT)
- Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn (CRC)
- Confensiwn ar Hawliau Personau ag Anableddau a’i Brotocol Opsiynol (CRPD)
Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Oct 2019