Archwiliad cyflog cyfartal ar gyfer sefydliadau mwy

Canllaw Aml Dudalen

I bwy mae'r dudalen hon?

  • large organisations (50 or more employees)

Y gwledydd y mae'n berthnasol iddynt?

    • Prydain Fawr flag icon

      Prydain Fawr

Bwriad y tudalennau hyn yw helpu sefydliadau gyda mwy na 50 o gyflogeion i gyflawni archwiliad cyflog cyfartal.

Archwiliad cyflog cyfartal yw'r ffordd fwyaf effeithiol o wirio fod eich sefydliad yn cydymffurfio â'i rwymedigaethau cyflog cyfartal.

Pam fod angen i chi gyflawni'r archwiliad hwn

Dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae gan fenywod hawl i gyflog cyfartal i ddynion sy'n gwneud gwaith cyfartal. Mae hyn yn golygu bod angen i chi fod yn hyderus bod eich system gyflog yn cyflawni cyflog cyfartal ac yn eich diogelu rhag y risg o hawliad cyflog cyfartal.

Beth yw archwiliad cyflog cyfartal?

Mae archwiliad cyflog cyfartal yn galw am gymharu cyflogau dynion a menywod sy'n gwneud gwaith cyfartal yn eich sefydliad. Mae tri phrif bwrpas i hyn:

  • nodi unrhyw wahaniaethau mewn cyflog rhwng dynion a menywod yn gwneud gwaith cyfartal
  • ymchwilio i achosion unrhyw wahaniaethau mewn cyflog rhwng dynion a menywod yn gwneud gwaith cyfartal, a
  • diddymu achosion o gyflog anghyfartal na ellir eu cyfiawnhau.

Mae archwiliad yn fwy nag ymarfer casglu data’n unig. Mae'n galw am ymroddiad i unioni unrhyw anghydraddoldeb cyflog annheg. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i'r archwiliad gynnwys a chael cefnogaeth gan reolwyr â'r awdurdod i gyflawni'r newidiadau angenrheidiol. Mae hefyd yn bwysig cynnwys cynrychiolwyr y gweithlu i uchafu dilysrwydd yr archwiliad a llwyddiant unrhyw gamau a gymerir wedi hynny.

Ein harchwiliad cyflog cyfartal pum cam

Mae pum cam i'n harchwiliad cyflog cyfartal. Mae'n esbonio beth sydd angen i chi ei wneud ar bob cam, pam bod angen i chi wneud hyn, a chanllawiau ar sut i'w wneud.

Amlinellir y pump cam o'n harchwiliad cyflog cyfartal yn y tudalennau canlynol:

Cam 1: Penderfynu beth yw'r cwmpas

Cam 2: Gwaith cyfartal, gwerth cyfartal a gwerthuso swydd

Cam 3: Casglu a dadansoddi data cyflogau

Cam 4: Achosion gwahaniaethau cyflog rhwng y rhywiau

Cam 5: Datblygu cynllun gweithredu cyflog cyfartal

Ymwrthodiad

Er y gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod y cyngor hwn yn gywir a chyfoes, nid yw’n sicrhau y gallech chi amddiffyn yn llwyddiannus yn erbyn hawliad am gyflog cyfartal. Dim ond llysoedd neu dribiwnlysoedd a all gynnig dehongliadau awdurdodol o’r gyfraith.

Gwybodaeth Bellach

Os ydych yn ymwneud ag anghydfod cyflogaeth neu’n ceisio gwybodaeth ar hawliau a rheolau cyflogaeth, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas):

www.acas.org.uk/helplineonline

Rhadffôn: 0300 123 1100 (8yb-8yh Llun i Wener a 9yb-1yh Sadwrn)

Gwasanaeth Cyfnewid Testun: 18001 0300 123 1100.

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Aug 2020

Cysylltwch â Acas am ragor o wybodaeth

Os ydych yn ymwneud ag anghydfod cyflogaeth neu’n ceisio gwybodaeth ar hawliau a rheolau cyflogaeth, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas):

www.acas.org.uk/helplineonline

Rhadffôn: 0300 123 1100 (8yb-8yh Llun i Wener a 9yb-1yh Sadwrn)

Gwasanaeth Cyfnewid Testun: 18001 0300 123 1100.