Mother and baby

Adroddiad gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth

Our findings in relation to pregnancy and maternity discrimination

Cefndir

Comisiynodd yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol raglen o ymchwil i archwilio mynychder a natur gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd ac anfantais yn y gweithle. Mae deddfwriaeth Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gwahardd gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth. 

Mae’r canlyniadau yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar gyfweliadau gyda 3,034 o gyflogwyr a 3,254 o famau.

Mae’r ddau ymholiad yn cynnwys barnau a phrofiadau cyflogwyr a mamau ar ystod o faterion yn ymwneud â rheoli beichiogrwydd, absenoldeb mamolaeth a mamau yn dychwelyd i’r gwaith. Archwiliodd yr adroddiad:

  • Math a nifer gwahaniaethu posibl ar sail beichiogrwydd a mamolaeth.
  • Nodweddion menywod sy’n profi gwahaniaethu posibl.
  • Argaeledd ac effeithiolrwydd cyngor a chymorth.
  • Profiadau menywod sy’n codi cwynion neu’n ceisio gorfodi eu hawliau cyfreithiol.
  • Gwybodaeth cyflogwyr o’u hawliau a’u cyfrifoldebau cyfreithiol a’u hagweddau atynt.
  • Agweddau cyflogwyr tuag at recriwtio a rheoli menywod o oed cael plant, menywod beichiog, y rheini ar absenoldeb mamolaeth a menywod gyda phlant.
  • Argaeledd cyngor a chymorth i gyflogwyr (mentrau canolig a neilltuol fach).
  • Y rheswm y gallai rhai cyflogwyr o bosib gwahaniaethu ac eraill fod yn llwyddiannus wrth hybu arfer dda.
  • Y galw ymysg mamau i fwydo ar y fron neu wasgu llaeth yn y gweithle ac agweddau, polisïau ac arferion cyflogwyr o ran bwydo ar y fron yn y gweithle.

Prif ganfyddiadau

Adroddodd y mwyafrif o gyflogwyr fod cefnogi menywod beichiog a’r rheini ar absenoldeb mamolaeth o fudd iddynt ac roeddent yn cytuno bod hawliau statudol o ran beichiogrwydd a mamolaeth yn rhesymol ac yn hawdd i’w rhoi ar waith. Fodd bynnag, canfu’r adroddiad fod:

  • Oddeutu un o bob naw mam (11%) wedi sôn eu bod wedi naill a’u diswyddo; wedi colli eu gwaith dan orfod lle nad oedd eraill wedi profi hynny; neu wedi eu trin mor wael fel yr oeddent yn teimlo bod rhaid iddynt ymddiswyddo; o gael ei chwyddo i’r boblogaeth gyffredinol gallai hyn olygu cymaint â 54,000 o famau.
  • Dywedodd un o bob pum mam eu bod wedi profi aflonyddu neu sylwadau negyddol gan eu cyflogwr a/neu gydweithwyr yn ymwneud â beichiogrwydd neu weithio hyblyg; o’i chwyddo i’r boblogaeth gyffredinol gallai hyn olygu cymaint â 100,000 o famau'r flwyddyn.
  • Dywedodd 10% o famau fod eu cyflogwyr wedi eu hannog i beidio â mynd i apwyntiadau cyn geni; o’i chwyddo i’r boblogaeth gyffredinol gallai hyn olygu hyd at 53,000 o famau'r flwyddyn.

Ein hadroddiadau ymchwil a chanfyddiadau

Mae’r adroddiad hwn yn dilyn adroddiad y Comisiwn Cyfle Cyfartal yn 2005, 'Greater Expectations' yn archwilio maint y gwahaniaethu ym Mhrydain ar sail beichiogrwydd. Adroddodd y Comisiwn Cyfle Cyfartal fod bron i hanner y 440,000 o fenywod beichiog ym Mhrydain ar y pryd, yn profi rhyw ffurf o anfantais yn y gwaith, mewn gair, am fod yn feichiog neu’n cymryd absenoldeb mamolaeth. Soniwyd hefyd fod 30,000 o fenywod yn cael eu gorfodi allan o’u swyddi. Roedd y ffigwr hwn yn cynnwys menywod a oedd wedi dewis ymddiswyddo gwirfoddol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 25 May 2018