
Amlinella’r ddogfen hon ein hargymhellion am y newidiadau sydd eu hangen i sicrhau bod pobl yn ceisio lloches a’r sawl a gaiff eu gwrthod yn gallu mwynhau’n llawn eu hawl i iechyd.
Mae’n gydymaith i’n hadroddiadau ymchwil ar brofiadau byw pobl yn ceisio lloches a’r sawl a gaiff eu gwrthod ac adolygiad tystiolaeth o fynediad i ofal iechyd.
Dangosodd ein hadolygiad o’r grwpiau mwyaf difreintiedig ym Mhrydain fod pobl yn ceisio lloches yn wynebu rhwystrau wrth geisio gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys gwasanaethau iechyd. Maent hefyd yn fwy tebygol o fod ag anghenion iechyd arbennig oherwydd profiadau blin yn y gorffennol ac effeithiau trawmatig o ffoi i wlad wahanol.
Mae’r argymhellion hyn yn ffurfio rhan o ymrwymiad ein cynllun busnes i sicrhau bod pobl sydd yn ceisio lloches yn gallu cael mynediad llawn i wasanaethau cyhoeddus y mae ganddynt yr hawl iddynt.